Cynghorau'r Fatican
Oddi ar Wicipedia
Cynghorau'r Fatican yw'r enw swyddogol ar yr 20fed a'r 21ain o gynghorau eglwysig yr Eglwys Gatholig, a gynhelwyd yn Rhufain.
[golygu] Y Cyngor Cyntaf
Yn y Cyngor Cyntaf (1869-1870) llwyddodd pleidwyr Trafynyddiaeth i gael y cyngor i ddatgan anffaeledigrwydd y Pab a'i awdurdod ar draul mudiadau cenedlaetholgar a rhanbarthol o fewn yr eglwys. Fe'i cynhaliwyd gan y Pab Pïws IX. Bu rhaid ei derfnynu oherwydd y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia (gweler Rhyfel Ffrainc a Phrwsia).
[golygu] Yr Ail Gyngor
Cynhaliwyd Ail Gyngor y Fatican (1962-1965) dan y Pab Ioan XXIII a'i olynydd Pab Pawl VI. Fe'i ystyrir yn fuddugoliaeth i'r rhyddfrydwyr Catholig yn erbyn y Trafynyddwyr ceidwadol. Ei brif bwrpas oedd aggiornamento, chwedl Pab Ioan, sef diweddaru a moderneiddio'r Eglwys. Er na chyhoeddwyd dogmau, cafodd y litwrgi ei diwygio a rhoddwyd mwy o ryddid ac annibyniaeth i'r mudiadau eciwmenaidd a'r eglwysi lleol ledled y byd. Fel canlyniad daeth lleisiau radicalwyr adain chwith o fewn yr eglwys, yn arbennig y rhai a hyrwyddai syniadau fel Diwinyddiaeth Ryddid yn y Trydydd Fyd, fwyfwy i'r amlwg.