Cyndeyrn
Oddi ar Wicipedia
Sant a gysylltir a teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Cyndeyrn, Saesneg: Kentigern neu Mungo (tua 518 - 13 Ionawr 603).
Yn ôl traddodiad, roedd Cyndeyrn yn fab gordderch i Owain ab Urien ac ŵyr Urien Rheged. Roedd Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, yn noddwr iddo. Ef oedd sylfaenydd Glasgow. Ceir manylion amdano ym Muchedd Sant Cyndeyrn, a ysgrifenwyd ar gyfer Jocelin o Furness, esgob Glasgow, yn yr Oesoedd Canol. Alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud tua 545, a ffoes i ogledd-ddwyrain Cymru lle sefydlodd glas yn Llanelwy. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith Asaph. Dychwelodd Cyndeyrn i Ystrad Clud, ar ôl Brwydr Arfderydd yn 573, a chysegrwyd Asaph yn esgob i'w olynu.
Ef yw nawdd sant Glasgow, a chysegrwyd yr Eglwys Gadeiriol iddo. Ar arfbais y ddinas, ceir llun y sant ac islaw iddo goeden, aderyn, cloch a physgodyn, yn coffáu pedwar gwyrth a gyflawnwyd ganddo.
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |