Cyfrifiad
Oddi ar Wicipedia
Arolwg a wneir gan lywodraeth gwlad er mwyn darganfod ystadegau am y boblogaeth, er enghraifft ei nifer, cyflogaeth, lleoliad, arferion ac ati yw cyfrifiad.
Mae'n debyg fod y syniad o gael cyfrifiad yn mynd yn ôl i'r cyfnod pan godwyd dinasoedd am y tro cyntaf. Arferai brenhinoedd gwareiddiadau Mesopotamia a'r Hen Aifft gynnal cyfrifiad, er enghraifft, ac roedd yn arfer gan y Rhufeiniaid hefyd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cyfrifiad Cymru a Lloegr
Cynhelid y cyfrifiad cyntaf erioed yn hanes Cymru yn y flwyddyn 1801. Roedd 587,000 o bobl yn byw yng Nghymru. Merthyr Tudful oedd y dref fwyaf gyda 7,705 o drigolion.
Defnyddir hen gyfrifiadau yn aml mewn ymchwil hanesyddol megis Hel Achau neu ymchwil hanes tŷ neu ardal penodol. Yn Lloegr a Chymru (roedd cyfrifiad yr Alban ac Iwerddon yn annibynol), y cyfrifiad cyntaf a ellir ei chwilio er mwyn pwrpas ymchwil yw 1841, ni gofnodwyd enwau personol yn y cyfrifiadau cynnar a dinistrwyd y cyfrifiadau gwreiddiol, cyn 1841, wedi i'r ystadegau cael eu casglu.
Yn 1841 cofnodwyd enw a chyfenw, oedran (wedi ei grynhoi i'r 5 mlynedd agosaf ar gyfer rhai drost 15 oed), galwedigaeth (Dynion yn unig) ac os aned y person yn y sir ai peidio, ac os aned hwy yn yr Alban, Iwerddon neu mewn tiroedd estron. Cofnodwyd os oedd person yn Forwyn neu'n Wâs i'r teulu ond nid y perthynas rhwng y teulu nac rhwng ymwelwyr. Dechreuwyd godnodi perthynas rhwng yr enwau a gofnodwyd â'r pen-teulu yn 1851 ynghyd a manylion pellach o ble roedd pobl yn hannu. Arhosodd hyn mwy neu lai yr un fath rhwng 1851 ac 1901, gyda mwy a mwy o fanylder ynglyn ac'r cyfeiriad yn cael ei ategu. Yng Nghymru cofnodwyd os oedd person yn siarad Cymraeg, Saesneg neu'r ddau iaith.
Nid oedd y manylion a roddir yn y cyfrifiad wastad yn fanwl gywir oherwydd lefel isel llythrennedd ymysg pobl ar y pryd. Saesneg fel arfer oedd prif iaith y cyfrifwyr, felly Seisnigrwyd enwau Cymreig yn aml a chamsillafwyd enwau lle a phersonol. (Mae anghysondeb yn aml rhwng enw, oed a man geni person o un cyfrifiad i'r llall!) Llenwyd y ffurfleni oll gan Gyfrifwr ar ffurf tabl. Roedd gan pob ardal ei Gyfrifwr ei hun a chymerwyd y cyfrifiad i gyd ar un noson, pob deng mlynedd fel rheol. Erbyn heddiw, nid oes cyfrifwyr, dosbarthir un ffurflen ar gyfer pob tŷ a disgwylir y gyfraith i rhain gael eu llenwi a'i dychwelyd i'r cyfeiriad priodol erbyn y dyddiad penodol.
Ni gymerwyd y cyfrifiad yn 1941, oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Cafwyd y cyfrifiad diwethaf yn 2001. Roedd llawer o gwynion am y diffyg blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig a gwrthododd nifer o bobl lenwi'r ffurflenni mewn canlyniad.
Delir y cyfrifiadau odan glo am gan mlynedd ond mae ystadegau'r cyfrifiad ar gael bron yn syth bin. Y rheswm am hyn yw i gadw manylion personnol yr unigolion a restrir arnynt yn gyfrinachol. Y cyfrifiad diweddaraf syd ar gael yn llawn yw 1901, erbyn hyn mae lluniau ac adysgrifiau o'r cyfrifiadau ar gael ar y wê, sydd wedi gwneud ymchwil hanesyddol yn llawer haws, ac wedi achosi atgyfodiad ym mhoblogeiddrwydd hel achau drost y byd.
[golygu] Cyfrifiadau yng Nghymru a Lloegr
Blwyddyn | Dyddiad | Ar Gael |
---|---|---|
1841 | 6 Mehefin | ar gael |
1851 | 30 Mawrth | ar gael |
1861 | 7 Ebrill | ar gael |
1871 | 2 Ebrill | ar gael |
1881 | 3 Ebrill | ar gael |
1891 | 5 Ebrill | ar gael |
1901 | 31 Mawrth | ar gael |
1911 | 2 Ebrill | 1 Ionawr 2012 |
1921 | 19 Mehefin | 1 Ionawr 2022 |
1931 | 26 Ebrill | dinistriodd yn y rhyfel |
1939 | 29 Medi (Cofrestriad Genedlaethol) | 1 Ionawr 2040 |
1941 | dim cyfrifiad | - |
1951 | 8 Ebrill | 1 Ionawr 2052 |
1961 | 23 Ebrill | 1 Ionawr 2062 |
1971 | 25 Ebrill | 1 Ionawr 2072 |
1981 | 5 Ebrill | 1 Ionawr 2082 |
1991 | 21 Ebrill | 1 Ionawr 2092 |
2001 | 29 Ebrill | 1 Ionawr 2102 |
[golygu] Cyfrifiad Ynys Manaw
Deilwyd cyfrifiad diweddaraf Ynys Manaw ar ddydd Sul 23 Ebrill 2006, pum mlynedd ar ôl y diwethaf.[1] Roedd hyn yn wahanol i'r arfer, pan gymerir cyfrifiad pob 10 mlynedd, penderfynnodd y Llywodraeth ddal cyfrifiad ychwanegol oherwydd y credont i'r boblogaeth godi'n sydyn iawn yn y cyfnod rhwng 2001 ac 2006.[2] Cymerwyd cyfrifiad interim pob deng mlynedd ers 1966 yn ogystal[3][4] ond fel rheol cymerir y cyfrifiad yn Ynys Manaw yr un pryd ac yng ngweddil Lloegr a Chymru, gan ddefnyddio'r un ffurflenni.[5]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ (Saesneg) Date is set for island's census BBC 13 Ebrill 2006
- ↑ (Saesneg) Island set to hold interim census BBC 17 Ionawr 2006
- ↑ (Saesneg) Poblogaeth ar gyfrifiadau Ynys Manaw
- ↑ (Saesneg) Gwybodaeth cyfrifiadau ar wefan llywodraeth Ynys Manaw
- ↑ (Saesneg) Cyfrifiadau a gwybodaeth ar safle ancestry.co.uk
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.