Compert
Oddi ar Wicipedia
Term Gwyddeleg sy'n dynodi "cenhedlu" ac sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio dosbarth arbennig o chwedlau yn llenyddiaeth Wyddeleg yr Oesoedd Canol Cynnar sy'n ymwneud â chenhedlu a geni arwyr enwog yw compert.
Un o'r remscéla (chwedlau rhagarweiniol) i chwedl Táin Bó Cuailgne (Cyrch Gwartheg Cuailgne) yw Compert Chon Culainn (Cenhedlu Cú Chulainn), sy'n adrodd sut y cafodd yr arwr Cú Chulainn ei genhedlu. Mae'n un o chwedlau Cylch Wlster.
Mae compertau eraill yn cynnwys:
- Compert Chonchobuir (Chwedl Geni Conchobar)
- Compert Mongáin ocus serc Duibe Lacha do Mongán (Chwedl geni Mongán a'i gariad at Dub Lacha)