Colmán mac Lénéni
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Colmán mac Lénéni (tua 530 - 606) yn fardd o Wyddel a gyfansoddai yn yr iaith Wyddeleg. Canai ar bynciau crefyddol yn bennaf.
Credir iddo gael ei eni yn Desmond (Swydd Cork heddiw), yn ne-orllewin Iwerddon. Mae'n debygol mai Colmán a sefydlodd fynachlog Cluain Uama (Cloyne), ym Munster. Mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi i'w dyddio i'r cyfnod 565-604, ac maent ymlhith yr enghreifftiau cynharaf o ysgrifennu Gwyddeleg yn yr wyddor Ladin.
Roedd Colmán yn gyfoeswr â'r llenor a sant Columbanus. Mae un o'i gerddi yn gerdd o fawl i frenin o'r enw Domnall, i ddiolch iddo am roi cleddyf iddo :
- Luin ac elaib
- ungi oc dírnaib
- crotha ban n-athech
- oc ródaib rígnaib.
- Ríg oc Domnall
- dord oc aidbse
- adand oc caindill
- calg oc mo chailg-se.
('Mwyeilch wrth elyrch, wnsïau wrth bwysi, pryd gwragedd taeogion wrth bryd breninesau beilch, brenhinoedd wrth Domnall, mwmian wrth ganu, pren cynnau tân wrth gannwyll, dyna yw unrhyw gleddyf wrth fy nghleddyf i.')[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Cyfieithiad gan J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958), tud. 70.
- Oxford Concise Companion to Irish Literature, Robert Welsh, 1996. ISBN 0-19-280080-9