Coleg Yr Iesu, Rhydychen
Oddi ar Wicipedia
Coleg Yr Iesu, Prifysgol Rhydychen | |
Enw Llawn | Coleg Yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen o Sefydliad Elizabeth |
Enwyd ar ol | Iesu Grist |
Sefydlwyd | 1571 |
Chwaer-Goleg | Coleg Yr Iesu |
Prifathro | Arglwydd Krebs |
Arlywydd y JCR | Seán Mac labhraí |
Arlywydd y MCR | Liz Dollins |
Lleoliad | Turl Street, Rhydychen |
Is-raddedigion | 340 |
Graddedigion | 160 |
Gwefan | Clwb Rhwyfo |
Mae Coleg Yr Iesu yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen. Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £79,700,391 (2003). Mae’n un o’r colegau mwyaf canolog yn ninas Rhydychen gyda mynediad yn Turl Street.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Coleg yr Iesu yn 1571, ar safle a fu gynt yn lleoliad i'r Neuadd Wen ers y 13eg ganrif. Fe'i sefydlwyd gan wyth o gomisiynwyr, Hugh Price, prebendwr Tyddewi y pennaf ohonynt, a rhoddwyd siarter i’r coleg gan y Frenhines Elisabeth I.
Ar sail ei addewid o adael £60 y flwyddyn ar ei farwolaeth, cafodd Hugh Price yr awdurdod i benodi prifathro, cymrodorion ac ysgolorion y coleg newydd. Ariannodd gychwyn adeiladu’r coleg, ond ar ei farwolaeth dim ond rhyw £600 o gyfraniad unwaith-ac-am-byth a adawyd ganddo.
Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn y 17eg ganrif. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob Henffordd, ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er yn gosod yr amod "my kindred shall be always preferred before anie others").[1] Gwariodd Eubule Thelwall, prifathro 1621-1630, ei arian ei hunan ar adeiladu capel, neuadd a llyfrgell. Gorfu dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.
Leoline (Llywelyn) Jenkins, prifathro 1661-73, a sicrhaoedd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth yn 1685 ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau . [2]
Ym 1974, bu’r coleg ymysg y grŵp cyntaf o golegau dynion ym Mhrifysgol Rhydychen i ganiatáu mynediad i fenywod (ynghyd â Brasenose, Wadham, Hertford a Choleg Santes Catrin.
[golygu] Cysylltiadau Cymreig
Mae gan y coleg gysylltiadau cryf â Chymru. Sefydlwyd y coleg ar gais Cymro, Hugh Price, a gwelwyd ers y cychwyn fel 'Y Coleg Cymreig' ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedir mai'r hanesydd David Powel oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o'r coleg. Cyn sefydlu Prifysgol Cymru, Coleg Yr Iesu oedd un o'r prif sefydliadau lle 'roedd nifer prin o Gymry yn cael addysg uwch, ond gwaniodd y cysylltiad dros amser. Ym 1637, allan o 86 o fyfyrwyr ar y llyfrau, cofnodir cartref 60 ohonynt: 31 o Dde Cymru, 13 o Ogledd Cymru, 11 o Fynwy a'r Gororau, un o Ynysoedd y Sianel, ac un yn unig o weddill Lloegr. Erbyn 1895 'roedd y Cymry dal mewn mwyafrif gyda 18 allan o 27 o newydd-ddyfodiaid â chymhwyster Cymreig. Erbyn 1913 'roedd 17 allan o 40 newydd-ddyfodiaid â'r un cymhwyster.
Hyd at 1859 'roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r cymrodaethau i Gymry, ond bu diwygiad yn y flwyddyn honno yn lleihau'r nifer oedd ar gael i Gymry yn unig i hanner y cymrodaethau.
Roedd y rhan helaeth o'r prif gymeriadau yn ei hanes, a bron pob un Prifathro, yn Gymry. Yn sgîl y cysylltiadau hyn, roedd rhan helaeth o waddolion y coleg hefyd yng Nghymru; dywedwyd ar un adeg mai Coleg Yr Iesu oedd y tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru oll heblaw'r goron.
Yn academaidd hefyd, mae cysylltiadau furffiol â bywyd Cymreig. Sefydlwyd Athro Celteg y Brifysgol yng Ngholeg Yr Iesu ers 1877. Delir swydd Cymrodor Uwchrifol yn y coleg fel arfer gan un o uwch academyddion Prifysgol Cymru. Sefydlodd Edmwnd Meyricke (1636-1713) ysgoloriaethau yn y coleg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr o Ogledd Cymru, ac wedi eu cyllido gan incwm ystadau yn y Gogledd. Erbyn heddiw, mae'r ysgoloriaethau yn parhau, ond yn agored i fyfyrwyr o Gymru gyfan neu wedi cael addysg yng Nghymru.[3]
Er bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, mae'r cysylltiadau ffurfiol sy'n parhau yn ogystal â thraddodiad yn cadw'r dylanwad yn fyw.
Bydd Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu yn y coleg.
Ers 1701 bu'r coleg yn berchen ar un copi o Lyfr Coch Hergest, un o ffynonellau gwreiddiol y Mabinogi. Erbyn heddiw mae'r llyfr yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.
[golygu] Cynfyfyrwyr
- John Blackwell (Alun) — bardd
- William Boyd — awdur
- James Burke — darlledwr
- Thomas Charles — (o’r Bala) clerigwr
- Edward Davey — aelod seneddol
- Geraint Davies — cyn-aelod seneddol
- John Davies — (Mallwyd) geiriadurwr
- Alfred George Edwards — Archesgob cyntaf Yr Eglwys yng Nghymru
- Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) — bardd
- Richard J. Evans — hanesydd
- Edward Garnier — aelod seneddol
- Gwyneth Glyn — bardd a chantores
- John Richard Green — hanesydd
- W. J. Gruffydd — llenor ac ysgolhaig
- Ffion Hague — gwraig y gwleidydd William Hague
- T. Rowland Hughes — nofelydd
- Bedwyr Lewis Jones — ysgolhaig
- Huw Jones — canwr a Phrif Weithredwr S4C
- Paul Jones — canwr poblogaidd gyda Manfred Mann
- Thomas Jones — arlunydd
- Lawrence o Arabia — "Lawrence of Arabia"
- Siân Lloyd — darlledwraig
- William Lloyd — esgob
- Edward Llwyd — naturiaethwr
- Magnus Magnusson — cyflwynydd teledu, darlledwr
- Syr John Morris-Jones — ysgolhaig
- Norman Washington Manley — gwleidydd Jamaica
- Dom Moraes — awdur
- Beau Nash — cymdeithaswr
- Goronwy Owen — bardd
- Morgan Owen — Esgob Llandaf
- T.H. Parry-Williams — awdur
- Pixley ka Isaka Seme — aelod sylfaneol Cyngres Cenedlaethol Affrica
- David Powel — hanesydd
- Glyn Simon — Archesgob Cymru
- Francine Stock — darlledwraig
- Walter H. Stockmayer — cemegydd
- Gwyn Thomas — bardd (Bardd Cenedlaethol Cymru, 2006)
- Henry Vaughan — bardd a meddyg
- William Vaughan — awdur
- Theresa Villiers — aelod seneddol
- Harold Wilson — cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
- Watkin Williams-Wynn — gwleidydd a thirfeddiannwr
- D. J. Williams — llenor a chenedlaetholwr
- Gwilym Owen Williams — Archesgob Cymru
- Morris Williams (Nicander) — bardd
- Ellis Wynne — awdur
[golygu] Cysylltiadau allanol
[golygu] Nodiadau
- ↑ Martin E. Speight, ‘Westfaling , Herbert (1531/2–1602)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 (http://www.oxforddnb.com/view/article/29111, accessed 29 June 2006)
- ↑ http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php Benefactors of Jesus College. Date of access 29 June 2006.
- ↑ J.N.L. Baker (1971) Jesus College, Oxford 1571-1971 Oxonian Press
Colegau Prifysgol Rhydychen
|
||
---|---|---|
Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Holl Eneidiau | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd yr Arglwyddes Margaret | Neuadd St Edmwnd | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester |
||
Neuaddau Prifysgol Rhydychen
|
||
Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan |