Cináed mac Ailpín
Oddi ar Wicipedia
Brenin cyntaf yr Alban unedig, o leiaf yn ôl traddodiad, oedd Cináed mac Ailpín, Saesneg: Kenneth MacAlpin neu Kenneth I, (wedi 800 - 13 Chwefror 858).
Brenin y Pictiaid oedd Cináed, am ymddengys iddo gyfuno teyrnas y Pictiaid a theyrnas Dál Riata. Roedd brenhinllin yr Alban yn hawlio bod yn ddisgynyddion iddo. Mae ansicrwydd beth yn union oedd ei gysylltiad ef a theyrnas y Pictiaid a Dál Riata, ac a oedd yr uniad yn golygu fod un deyrnas wedi gorchfygu'r llall.
Ystyrir fod teyrnasiad Cináed fel brenin y Pictiaid wedi dechrau yn 843, ond mae'n debyg ei bod yn 848 cyn iddo orchfygu'r olaf o hawlwyr eraill yr orsedd. Dywed rhai ffynonellau ei fod yn frenin Dál Riata cyn dod yn frenin y Pictiaid, ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw o gancr yn 858, efallai yn Scone, a chladdwyd ef ar ynys Iona. Er bod traddodiad diweddarach yn ei ddisgrifio fel brenin cyntaf Teyrnas Alba, fel "Brenin y Pictiaid" y mae'r Brutiau yn cofnodi ei farwolaeth. Gadawodd o leiaf ddau fab, Cystennin I, brenin yr Alban ac Áed, ac o leiaf ddwy ferch; priododd un ohonynt Rhun, brenin Ystrad Clud.