Chwech Oes y Byd
Oddi ar Wicipedia
![Y Farn Fawr ar ddiwedd Oes Olaf y Byd (o destun o Lyfr Genesis yng Nghadeirlan Caerwynt)](../../../../images/local/thumb/0/0c/WinchesterBibleGenesisLastJudgement.gif/180px-WinchesterBibleGenesisLastJudgement.gif)
Yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr, gan ddilyn y traddodiad Cristnogol, yn dosbarthu hanes y Byd yn chwech oes. Weithiau ychwanegid seithfed oes trwy gyfrif cyfnod cenhadaeth Iesu Grist fel y chweched oes a'r cyfnod ar ôl hynny fel y seithfed.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr Oes Cyntaf
O Greu y Byd gan Dduw hyd at y Dilyw, h.y. o amser Adda ac Efa yng Ngardd Eden hyd amser Noa. Cyfnod o 2,242 mlynedd.
[golygu] Yr Ail Oes
O'r Dilyw hyd oes Abraham. Cyfnod o 942 mlynedd.
[golygu] Y Drydedd Oes
O amser Abraham hyd amser Dafydd, brenin Israel. Cyfnod o 500 mlynedd.
[golygu] Y Bedwaredd Oes
O amser Dafydd hyd amser y proffwyd Daniel a Nebuchodnesar, brenin Babilon, pan gaethiwyd yr Iddewon "ar lannau Babilon". Cyfnod o 569 mlynedd.
[golygu] Y Bumed Oes
O amser Daniel hyd amser Ioan Fedyddiwr a genedigaeth Crist. Cyfnod o 566 mlynedd.
[golygu] Y Chweched Oes
O amser Ioan Fedyddiwr hyd Ddydd y Farn ar Ddiwedd y Byd.