Chott
Oddi ar Wicipedia
Mae chott (enw Arabeg) yn llyn halen a geir yng ngogledd y Sahara, ac yn arbennig yn Algeria a Tunisia. Arosent yn sych ac eithrio pan geir cawod o law - sy'n ddigwyddiad eithaf anghyffredin.
Yn y llun gwelir Chott El-Jerid (neu Chott El Djerid), chott anferth 5000km² ger tref Tozeur yn ne Tunisia. Fe'i croesir gan y briffordd rhwng Tozeur a Kebili ar glawdd 2m uwchben wyneb y chott ei hun.