Cher (département)
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am yr ardal yn Ffrainc yw hon: gweler hefyd Cher (gwahaniaethu).
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Centre yng nghanol y wlad, yw Cher. Ei phrifddinas weinyddol yw Bourges. Rhed Afon Cher trwy'r département gan roi iddo ei enw. Mae Cher yn ffinio â départements Loir-et-Cher, Loiret, Nièvre, Allier, ac Indre. Mae'n ardal amaethyddol sy'n nodedig am ei meysydd gwenith a gwinllanau.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Bourges
- Saint-Amand-Mont-Rond
- Vierzon