Charles Ashton
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig hunanddysgedig oedd Charles Ashton (1848 - 1899). Roedd yn frodor o Sir Drefaldwyn (gogledd Powys heddiw), a aned yn Llawr-y-glyn.
Roedd Ashton yn blentyn gordderch. Ym more ei oes gweithiodd fel mwynwr yng ngwaith plwm Dylife ac yna ar y rheilffordd, cyn mynd yn heddwas yn Ninas Mawddwy. Yno daeth yn gyfaill i'r ysgolhaig Daniel Silvan Evans, ficer y plwyf ar y pryd.
Ysgrifennodd Charles Ashton erthyglau i sawl cylchgrawn Cymraeg fel Yr Haul. Ymroddodd i astudio hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gymryd diddordeb arbennig yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr a llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd olygiad o waith Iolo Goch (sy'n wallus yn ôl safonau ysgolheictod heddiw ond yn waith arloesol ar y pryd). Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol ar fywyd William Morgan. Ond ei gampwaith fawr, llafur ei oes, yw'r gyfrol swmpus Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650-1850, sy'n llawn manylion difyr am lên a llenorion y cyfnod hwnnw; enillodd y gyfrol wobr iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1891 ac fe'i cyhoeddwyd gan lys yr Eisteddfod.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan (1891)
- Gweithiau Iolo Goch (Croesoswallt, 1896)
- Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650-1850 (Lerpwl, d.d. = 1893)
- Llyfryddiaeth y 19eg Ganrif (cyhoeddwyd yn 1908, ar ôl ei farwolaeth)