Oddi ar Wicipedia
Un o saith talaith ffederal (okrug) Rwsia yw Canol Rwsia (Talaith Ffederal Canol) (Rwsieg Tsentral'nyj federaln'nyy okrug / Центра́льный федера́льный о́круг). Defnyddir y gair Canol mewn ystyr hanesyddol: roedd yr ardal yng nghanol Rwsia yn ystod yr Oesoedd Canol. Heddiw fe'i lleolir ar ochr orllewinol Rwsia. Cennad Arlywyddol y dalaith yw Georgiy Poltavchenko. Mae'r dalaith yn cynnwys deunaw rhanbarth (oblast) fel a ganlyn:
|
- Oblast Belgorod
- Oblast Bryansk
- Oblast Ivanovo
- Oblast Kaluga
- Oblast Kostroma
- Oblast Kursk
- Oblast Lipetsk
- Dinas Moscfa
- Oblast Moscfa
- Oblast Oryol
- Oblast Ryazan'
- Oblast Smolensk
- Oblast Tambov
- Oblast Tver'
- Oblast Tula
- Oblast Vladimir
- Oblast Voronezh
- Oblast Yaroslavl'
|
|