Cagliari
Oddi ar Wicipedia
Cagliari yw prifddinas ynys Sardinia yn yr Eidal. Saif yn nhalaith Cagliari yn ne-ddwyrain yr ynys. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 159,312.
Sefydlwyd y ddinas tua'r 7fed ganrif CC dan yr enw Karalis. Roedd yn un o nifer o drefedigaethau Ffenicaidd a sefydlwyd ar ynys Sardinia yn y cyfnod yma. Dywedir i Karalis gael ei sefydlu o ddinas Carthago.