Brwydr Mynydd Baddon
Oddi ar Wicipedia
Ymladdwyd Brwydr Mynydd Baddon (Lladin: Bellum (in monte) Badonis) rywbryd tua diwedd y 5ed ganrif neu ddechrau'r 6ed ganrif, rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid. Ychydig o fanylion sydd ar gael, ac ni wyddir union leoliad y frwydr; mae'n debyg ei bod yn rhywle yn yr hyn sy'n Lloegr heddiw. Ymddengys i fuddugoliaeth y Brythoniaid atal unrhyw symudiad pellach gan yr Eingl-Sacsoniaid am genhedlaeth.
Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn y De Excidio Britanniae ("Ynghylch Dinistr Prydain") gan y mynach Gildas. Cyfeiria at Frwydr Mynydd Baddon, ond nid yw’n crybwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol Lladin yn anodd yn y frawddeg yma (quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est). Byddai hyn yn awgrymu dyddiad tua 500 neu ychydig yn gynharach.
Awgryma rhai ysgolheigion, o astudiaeth o'r brif lawysgrif o'r De Excidio Britanniae, "British Library, Cotton Vitellius A.vi", fod Gildas mewn gwirionedd yn priodoli'r fuddugoliaeth i Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig).[1]
Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ac sy'n dyddio i tua dechrau'r 9fed ganrif, ceir rhestr o frwydrau Arthur. Brwydr Mynydd Baddon yw'r olaf o'r rhain a'i fuddugoliaeth fwyaf.
Yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 516, dywedir fod Arthur a'i wŷr wedi ymladd am dridydd gydag Arthur yn dwyn Croes Crist (ar ei darian efallai) ac wedi ennill buddugoliaeth ysgubol:
- Bellum Badonis in quo Arthur portuait crucem Domini nostri Iesu Christi tribus diebus et tribus noctibus in humeros suos et Brittones uictores fuerunt.[2]