Brinley Rees (1917 - 2001)
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig Cymreig oedd Brinley Rees (1917 - 2001)
Ganed ef ym Mhenrhewl, Gorseinon, yn frawd i Alwyn D. Rees. Addysgwyd ef yng Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn 1937 ac yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1938. Aeth ymlaen i gymeryd gradd MA cyn treulio cyfnod fel athro ysgol ym Mhontardawe o 1942 hyd 1946. Yn y cyfnod yma, enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru i dreulio amser yn astudio yn Iwerddon.
Ymunodd a staff Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 1947 a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1982.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Dulliau'r Canu Rhydd
- Ceinciau'r Mabinogi
- Celtic Heritage (gyda'i frawd Alwyn D, Rees)