Barddas
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Barddas, (dwy gyfrol: 1862, 1874), yn gasgliad o ysgrifau gan Iolo Morganwg. Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, ac er y gwyddom bellach mai crebwyll Iolo Morgannwg yw'r Barddas, mae'n dal yn destun craidd pwysig i'r symudiad neo-Derwyddol.
Ystyr y gair 'barddas' yw "barddoniaeth", neu "ddysg a chelfyddyd y beirdd, cyfundrefn y beirdd." Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd gan Edmwnd Prys (1543 - 1623):
- Byr ddeunydd mewn barddoniaeth,
- Barddas wir heb urddas aeth.
Mae'r enw Barddas yn deitl i gylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dafod yn ogystal.