Baner Colombia
Oddi ar Wicipedia
Mabwysiadwyd baner Colombia Fawr ar 17 Rhagfyr, 1819 yn dilyn ei hannibyniaeth o Sbaen, a chadwyd fel baner Colombia yn dilyn annibyniaeth y wlad fel gweriniaeth ar wahân yn 1930. Baner drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn felyn (symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn las (i gynrychioli annibyniaeth o Sbaen) a'r chwarter isaf yn goch (am ddewrder). Lliwiau Francisco de Miranda, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Am beth amser, trefnwyd y stribedi yn fertigol, ond adferwyd y dyluniad gwreiddiol yn 1861.
Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol. Gosodir hirgylch glas gyda border coch a seren wen yn ei ganol yng nghanol y faner ar gyfer defnydd lluman sifil, er mwyn ei gwahaniaethu o faner Ecuador.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Yr Ariannin · Bolivia · Brasil · Chile · Colombia · Ecuador · Guyana · Panamá* · Paraguay · Periw · Surinam · Trinidad a Tobago* · Uruguay · Venezuela
Tiriogaethau dibynnol
Antilles yr Iseldiroedd* (Yr Iseldiroedd) · Aruba* (Yr Iseldiroedd) · De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De (Y Deyrnas Unedig)· Guyane Ffrengig (Ffrainc) · Ynysoedd y Malvinas (Y Deyrnas Unedig)
* Tir sydd hefyd yn neu y tybir i fod rhywle arall yn yr Amerig (Gogledd America).