Archaea
Oddi ar Wicipedia
Archaea | ||
---|---|---|
Halobacterium
|
||
Dosbarthiad gwyddonol | ||
|
||
Ffyla | ||
Crenarchaeota |
Grŵp o organebau ungellog, microsgopig, procaryotig yw'r Archaea. Fe'u dosbarthwyd fel bacteria tan yn ddiweddar ond fe'u dosberthir mewn parth eu hunain bellach. Maent yn debyg i facteria o ran golwg ond mae gwahaniaethau yn eu DNA ac RNA, yn eu prosesau genetig fel trawsgrifiad ac yn strwythur eu cellfuriau a'u cellbilenni. Mae llawer o'r Archaea'n byw mewn amgylcheddau eithafol megis tarddellau poeth neu mewn dŵr asidig neu halwynog.