Antinomiaeth
Oddi ar Wicipedia
Safbwynt mewn diwinyddiaeth Gristnogol sy'n dal fod dysgeidiaeth yr Efengylau yn dangos nad oes rhaid ufuddhau i ddeddfau (Groeg: nomos) y wladwriaeth a bod gwneud hynny yn gallu amharu ar y gobaith o gael iachawdwriaeth i'r enaid yw Antinomiaeth.
Mae pleidiwyr Antinomiaeth yn tynnu ar gyfeiriadau at ddeddfau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y Testament Newydd sy'n awgrymu'n gryf nad yw'r credadyn yn rhwymedig wrth ddeddfau dyn ond wrth ddeddf uwch Crist. Gwrthodwyd Antinomiaeth gan y mwyafrif o ddiwinyddion.
[golygu] Ffynhonnell
- Alan Richardson (gol.), A Dictionary of Christian Theology (SCM, Llundain, 1979)