Anfeidredd
Oddi ar Wicipedia
Mewn mathemateg, mae anfeidredd yn fwy nag unrhyw rhif a ellir ei gyfri. Ysgrifennwyd yr anfeidredd gyda'r symbol .
Nid rhif yn ystyr arferol y gair mo anfeidredd, ond canlyniad o broses meidrol sy'n mwyhau yn dragywydd. Er enghraifft, os yw x yn rhif bach, mae 1 / x yn fawr. Wrth i x leihau, mae 1 / x yn mwyhau heb ffin; gan ddewis x yn ddigon fach, mae'n bosib bob amser i wneud 1 / x yn fwy nag unrhyw werth y a ellir ei ddewis (dewiswch x yn bositif ond llai nag 1 / y). Oherwydd hyn, dywedir fod 1 / x yn agosáu at wrth i x agosáu at 0, neu'n gwbl anffurfiol fod 1 / 0 yn anfeidraidd.