An Oriant
Oddi ar Wicipedia
Porthlladd ydy An Oriant (Ffrangeg: Lorient), yn ne Llydaw, yn gynt yn yr hen Bro-Wened, ond yn Mor-Bihan heddiw, lle mae'r Afon Blavezh a'r Afon Skorf yn aberu.
[golygu] Iaith Lydaweg
Mae ysgol Diwan y dref, Ysgol Loeiz Herrieu, yn cael ei enw ar ôl awdur llydaweg a sgrifennodd yn nhafodiaith Bro-Wened.
[golygu] Gŵyl Geltaidd
Pob haf ers 1971, ym mis Awst, mae miloedd o bobl yn dod i'r ŵyl adnabyddus, Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, sy'n un o brif wyliau cerddoriaeth celtaidd yn y byd.