Algarve
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth modern a thalaith hanesyddol yn ne Portiwgal yw'r Algarve. Daw'r enw o'r Arabeg الغرب (al-gharb, "y gorllewin"). Mae gan y rhanbarth boblogaeth o 379,000 ac arwynebedd o 4,960 km². Faro yw'r ddinas fwyaf a'r ganolfan weinyddol. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant heddiw ond roedd amaethyddiaeth a physgota yn bwysig iawn yn y gorffennol.