Afon Kabul
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Kabul neu Afon Kabal (Perseg: دریای کابل) yn afon sy'n tarddu yng nghadwyn Sanglakh yn Afghanistan, ac sy'n cael ei gwahanu oddi ar afon Helmand gan Fwlch Unai. Yma afon fwyaf dwyrain Afghanistan. Mae'n llifo 700 km cyn ymuno ag afon Indus ger Attock, ym Mhacistan. Mae'n llifo trwy ddinasoedd Kabul, Chaharbagh, Jalalabad, a (ar ôl llifo i Bacistan tua 30 km i'r gogledd o Fwlch Khyber) Nowshera. Mae'r afonydd sy'n llifo iddi yn cynnwys afon Logar, afon Panjshir, afon Kunar (sy'n cychwyn fel Afon Mastuj yn Chitral) ac afon Alingar.
Cyfeirir at Afon Kabul yn y Rig Veda, ysgrythur gynharaf Hindŵaeth, dan yr enw Kubhā (cyfeirir at sawl afon arall yn Afghanistan yn y Rig Veda). Newidiodd yr enw Sanscrit hwnnw i Kābul gyda threiglad amser.