Aderyn
Oddi ar Wicipedia
Adar | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Colomen
|
||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||
|
||||||||||
Urddau | ||||||||||
Llawer, gweler testun |
Anifail asgwrn-cefn gydag adenydd, pig, plu, dwy goes a gwaed cynnes yw aderyn (lluosog adar). Mae bron pob aderyn yn gallu hedfan, mae adar na allant hedfan yn cynnwys yr estrys, y ciwi a'r pengwiniaid. Mae bron 10,000 o rywogaethau o adar. Maen nhw'n byw mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ledled y byd. Adareg (neu Adaryddiaeth) yw astudiaeth adar.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Anatomi
Mae strwythur adar yn addasu ar gyfer hediad. Mae eu coesau blaen wedi newid i adenydd. Mae gan adar big ysgafn heb ddanedd ac mae codennau aer tu fewn i'w hesgwrn.
[golygu] Atgenhedliad
Mae adar yn dodwy wyau gyda phlisgyn caled. Mae'r rhan fwyaf o adar yn adeiladu nyth lle maen nhw'n deor eu hwyau. Mae rhai adar yn cael eu geni'n ddall a noeth. Mae adar eraill yn gallu gofalu am eu hunain bron ar unwaith.
[golygu] Mudiad
Mae llawer o rywogaethau yn mudo er mwyn dianc rhag tywydd oer. Mae miliynau o adar sy'n nythu yn Hemisffer y Gogledd yn mudo i'r de. Mae rhai adar Hemisffer y De yn mudo i'r gogledd. Mae Morwennol y Gogledd yn hedfan ymhellach na unrhyw aderyn arall o'r Arctig i'r Antarctig.
[golygu] Esblygiad
Esblygodd adar o ddeinosoriaid o'r urdd Therapoda, mae'n debyg. Archaeopteryx yw'r adar ffosilaidd henaf. Roedd e'n byw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
[golygu] Adar a dyn
Mae adar yn ffynhonnell bwysig o fwyd i bobl. Mae rhai adar fel yr iâr a'r twrci wedi eu ffermio ar gyfer eu cig neu wyau. Anifeiliaid anwes poblogaidd yw rhai adar e.e. y byji a'r caneri.
Mae llawer o adar wedi eu peryglu oherwydd hela a dinistr amgylcheddol. Mae elusennau fel Cymdeithas Audubon yn yr Unol Daleithiau a’r RSPB yn y DU yn ymgyrchu dros amddiffyniad adar.
[golygu] Urddau
- Struthioniformes: estrys, rheaod, emiw, casowarïaid a chiwïod
- Tinamiformes: tinamŵod
- Anseriformes: elyrch, gwyddau a hwyaid
- Galliformes: adar helwriaeth
- Gaviiformes: trochyddion
- Podicipediformes: gwyachod
- Procellariiformes: albatrosiaid, adar drycin a phedrynnod
- Sphenisciformes: pengwiniaid
- Pelecaniformes: pelicanod, mulfrain, huganod a.y.y.b.
- Ciconiiformes: crehyrod, ciconiaid a.y.y.b.
- Phoenicopteriformes: fflamingos
- Falconiformes: adar ysglyfaethus
- Gruiformes: rhegennod, garanod a.y.y.b.
- Charadriiformes: rhydwyr, gwylanod, morwenoliaid a charfilod
- Pteroclidiformes: ieir y diffeithwch
- Columbiformes: colomennod, dodo
- Psittaciformes: parotiaid
- Cuculiformes: cogau, twracoaid
- Strigiformes: tylluanod
- Caprimulgiformes: troellwyr a.y.y.b.
- Apodiformes: gwenoliaid duon, adar y si
- Coraciiformes: gleision y dorlan, rholyddion, cornylfinod a.y.y.b.
- Piciformes: cnocellod, twcaniaid a.y.y.b.
- Trogoniformes: trogoniaid
- Coliiformes: colïod
- Passeriformes: adar golfanaidd neu adar clwydol
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Adareg Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru
- RSPB Cymru