Río de la Plata
Oddi ar Wicipedia
Aber yn Ne America yw'r Río de la Plata. Ffurfir yr aber lle mae'r afonydd Paraná ac Uruguay yn uno cyn llifo i Gefnfor Iwerydd. Y Río de la Plata sy'n ffurfio'r ffîn rhwng yr Ariannin ac Uruguay yn y dwyrain. O ran lled, y Río de la Plata yw'r aber fwyaf yn y byd; 219 km yn y man lletaf.
Saif Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ar y lan ddeheuol a Montevideo, prifddinas Uruguay, ar y lan ogleddol.