Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg - Wicipedia

Llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg

Oddi ar Wicipedia

Erthyglau ynglŷn â
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid

Llenorion
550-1600 · 1600-heddiw

Cyfnodau

Canu cynnar · Oesoedd Canol
16eg ganrif · 17eg ganrif · 18fed ganrif
19eg ganrif · 20fed ganrif

Barddoniaeth a drama

Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch
Beirdd y Tywysogion · Beirdd yr Uchelwyr
Blodeugerddi · Mesurau
Hen Benillion · Canu Rhydd
Drama · Anterliwtiau

Rhyddiaith

Rhyddiaith Cymraeg Canol
Mabinogi · Y Tair Rhamant
Trioedd Ynys Prydain
Nofelau · Straeon byrion

Erthyglau eraill

Llawysgrifau · Llên gwerin
Llenyddiaeth plant

Mynegai i erthyglau cysylltiedig
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yr argraff gyffredinol a geir wrth edrych ar lenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif yw un o gyfnod o ddirywiad cyson ac unffurfiaeth lethol. Mae hyn yn adlewyrchu cyflwr gwleidyddol Cymru yn y ganrif honno a'r ffaith fod nifer o'r uchelwyr, noddwyr llên uchel a dysg, yn ymbellhau o'u gwreiddiau. Mae'n ganrif a ddominyddir gan grefydd a'r gwrthdaro rhwng Eglwys Loegr a'r Eglwys Gatholig ar ei dechrau a rhwng yr eglwys sefydlog a'r Pwirtianiaid yn ddiweddarach. Dyma'r ganrif a welodd rhyfel cartref yn rhwygo'r wlad hefyd, gyda thrwch arweinwyr Cymru yn ochri gyda'r brenin ac Eglwys Loegr. Nid yw'n syndod felly i gael fod y mwyafrif helaeth o lyfrau'r ganrif yn llyfrau crefyddol, gan gynnwys gwaith y ffigyrau llenyddol pwysicaf.

Taflen Cynnwys

[golygu] Barddoniaeth

Er gwaethaf y colli nawdd roedd y traddodiad barddol yn araf i edwino ond edwino a wnaeth. Mae'r llond llaw o feirdd da fel Siôn Philyp a'i frawd Rhisiart (Philypiaid Ardudwy), Richard Hughes, Edmwnd Prys, Siôn Tudur, Huw Llwyd a Thomas Prys yn eithriad i'r rheol ac yn perthyn mewn ysbryd i'r ganrif ragflaenol. Ymhlith yr olaf o'r beirdd proffesiynol oedd Owen Gruffudd a Rhys Cadwaladr, ar ddiwedd y ganrif a dechrau'r ganrif nesaf, ond digon dinod ac ystrydebol yw eu canu mewn cymhariaeth â beirdd mawr yr 16eg ganrif.

Mae'n ddarlun tipyn mwy iach yn y canu rhydd, gyda beirdd fel Edward Morris o'r Perthillwydion a Huw Morys (Eos Ceiriog) yn canu'n rhwydd ar y mesurau carolaidd yn ogystal ag ar y mesurau caeth. Canu i fân uchewlyr lleol ac er mwyn diddanu'r werin a wnai'r beirdd hyn, heb lawer o uchelgais llenyddol nac awydd newid. Yn is o lawer eu crefft ceid ugeiniau o feirdd llai yn canu ar donau poblogaidd. Roedd llawer o'r canu hwn yn gysylltiedig â gwyliau'r flwyddyn ac yn rhan o draddodiad gwerinol sy'n parhau i'r 18fed ganrif. O'r un cyfnod daw llawer o'r Hen Benillion hefyd, cynnyrch barddonol gorau'r ganrif efallai, er iddynt gael eu diystyru'n llwyr ar y pryd.

Un o lenorion mwyaf dylanwadol y ganrif oedd Rhys Prichard ('Y Ficer Pritchard' neu'r 'Hen Ficer'). Cyfansodd yr Hen Ficer nifer o bennillion syml, gwerinol, ar bynciau crefyddol. Fe'u cyhoeddwyd fel Canwyll y Cymry yn 1681, ddeugain mlynedd ar ôl marwolaeth yr Hen Ficer, a daethant mor bwysig â'r Beibl a'r cyfieithiadau o Daith y Pererin ym mywyd crefyddol y werin.

[golygu] Rhyddiaith

Cyfieithiadau ac addasiadau o weithiau crefyddol Saesneg yw trwch rhyddiaith y ganrif. Ar ei dechrau roedd y Gwrthddiwygwyr Cymreig yn weithgar o hyd (gweler uchod). Mae gweddill rhyddiaith y ganrif bron i gyd yn gynnyrch clerigwyr Eglwys Loegr a'r Piwritaniaid. O blith y cannoedd o awduron mae enwau Rowland Vaughan o Gaer Gai, John Davies (Mallwyd), Oliver Thomas, a Charles Edwards yn sefyll allan.

Perthyn i ddosbarth neilltuol yw Morgan Llwyd o Wynedd, awdur sawl cyfrol o ryddiaith gyfriniol gan gynnwys Llyfr y Tri Aderyn, sy'n un o gampweithiau mawr llenyddiaeth Gymraeg. Roedd Morgan Llwyd yn fardd da yn ogystal.

[golygu] Ysgolheictod

Parhaodd gwaith y dyneiddwyr i ddegawdau cyntaf y ganrif newydd, gyda Salmau mydryddol Edmwnd Prys yn cael eu cyhoeddi yn 1621 er enghraifft. Cafywd yn ogystal Y Beibl Bach neu'r Beibl Coron yn 1630, a ddaeth â'r ysgrythurau o fewn cyrraedd pawb.

Rhaid crybwyll yn ogystal gwaith ysgolheigion fel John Davies o Fallwyd a Thomas Jones, awdur Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688). Dyma ganrif fawr y copïwyr llawysgrifau Cymreig yn ogystal, gwŷr fel John Jones (Gellilyfdy) a weithiai'n ddistaw yn y cefndir i ddiogelu etifeddiaeth lenyddol Cymru a gosod un o'r sylfeini ar gyfer adfywiad y 18fed ganrif. Casglodd yr uchelwr Robert Vaughan o Hengwrt (ger Dolgellau) un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig erioed, a oedd yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Aneirin a Llyfr Taliesin.

[golygu] Rhai cerrig milltir

[golygu] Llyfryddiaeth

Ceir llyfryddieithau ar awduron unigol yn yr erthyglau perthnasol. Rhoddir yma detholiad o lyfrau sy'n cynnig arolwg cyffredinol ar y cyfnod:

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, cyfrol 2 (Gwasg Gomer, 1970)
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith 0 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926)
  • Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, 2 gyfrol (Cyhoeddiadau Barddas, 1993, 1994)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Pennod IX.
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992)

[golygu] Gweler hefyd

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com