Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg - Wicipedia

Llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg

Oddi ar Wicipedia

Erthyglau ynglŷn â
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid

Llenorion
550-1600 · 1600-heddiw

Cyfnodau

Canu cynnar · Oesoedd Canol
16eg ganrif · 17eg ganrif · 18fed ganrif
19eg ganrif · 20fed ganrif

Barddoniaeth a drama

Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch
Beirdd y Tywysogion · Beirdd yr Uchelwyr
Blodeugerddi · Mesurau
Hen Benillion · Canu Rhydd
Drama · Anterliwtiau

Rhyddiaith

Rhyddiaith Cymraeg Canol
Mabinogi · Y Tair Rhamant
Trioedd Ynys Prydain
Nofelau · Straeon byrion

Erthyglau eraill

Llawysgrifau · Llên gwerin
Llenyddiaeth plant

Mynegai i erthyglau cysylltiedig
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg gwelir meddylfryd y Cymry diwylliedig, gan gynnwys eu llenorion, yn symud o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod diweddar. Dyma'r ganrif a gynhyrchodd feirdd mawr fel Tudur Aled a Gruffudd Hiraethog a'r cyfieithiad cyntaf o'r Beibl cyfan i'r Gymraeg. Roedd ail hanner y ganrif yn arbennig yn gyfnod pan flodeuai dysg a chyhoeddwyd geiriaduron, astudiaethau ar rethreg a llyfrau gramadeg. Daeth y canu rhydd poblogaidd i'r amlwg yn ogystal a dirywio fu hanes y traddodiad barddol, er na chollodd y canu caeth ei blwyf yn gyfangwbl.

Taflen Cynnwys

[golygu] Cefndir: Dadeni, Diwygiad a Gwrth-Ddiwygiad

Fel yn achos y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, roedd yr 16eg ganrif yn cyfnod a welodd ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru a dechrau'r Cyfnod Modern. Dyma'r ganrif pan ledaenodd y Dadeni Dysg o'r Eidal. Roedd y ffaith fod papur yn rhatach ac argraffu llyfrau'n ymledu yn trawsffurfio byd dysg hefyd. Cyrhaeddasai y newidiadau hyn Gymru erbyn canol y ganrif a newidwyd diwylliant y wlad mewn canlyniad. Codwyd to o ddyneiddwyr oedd yn awyddus i weld Cymru a'r Gymraeg yn rhan o'r datblygiadau hyn. Bu newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y wlad yn ogystal. Cafwyd Y Deddfau Uno 1536 a 1543. Diddymwyd y mynachlogydd (1536-39) a sefydlwyd Eglwys Loegr a'r ffydd Brotestannaidd yn grefydd swyddogol Cymru a Lloegr, ac yna cafwyd deddf yn 1563 yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Ond clynodd rhai Cymry at yr Eglwys Gatholig a chyfranodd Cymru i'r Gwrth-Ddiwygiad yn ogystal. Cafodd y newidiadau hyn i gyd effaith fawr ar lenyddiaeth Gymraeg.

[golygu] Parhâd traddodiad

Ond cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Lewis Môn (c.1480-1520), Tudur Aled (c.1480-1525), Lewis Morgannwg (c.1520-50), Gruffudd Hiraethog (m. 1564), Wiliam Llŷn (m. 1580) a Wiliam Cynwal (m. 1587). Ceisiodd y beirdd adfywio'r traddodiad yn Eisteddfodau Caerwys (1523 a 1567).

Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth Elis Gruffydd o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.

[golygu] Canu rhydd newydd a'r ddrama

Mae'n ddiamau fod canu rhydd, cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16eg ganrif ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal a cheir carolau cynghanedig, cwndidau a mesurau eraill. O'r cyfnod hwn hefyd y mae llawer o'r Hen Benillion traddodiadol yn tarddu.

Ceir nifer fychan o destunau dramâu mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac Ymddiddan yr Enaid a'r Corff. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama Troelus a Chresyd, a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.

[golygu] Rhyddiaith newydd

Gellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y Gwrthddiwygwyr Cymreig.

Cyhoeddwyd Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Price yn 1546, y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1547 gan Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd William Salesbury. Yn 1567 cyhoeddoedd William Salebury y Testament Newydd yn Gymraeg a chyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin.

Ond Y Drych Cristianogawl, gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. Gruffydd Robert oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifenodd y Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg yn 1567. Mae awduron reciwsaidd eraill yn cynnwys Morys Clynnog, awdur Athravaeth Gristnogavl, a Rhosier Smyth, cyfieithydd Gorsedd y Byd.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, cyfrol 2 (Llandysul, 1970)
  • R. Geraint Gruffydd, Llenyddiaeth y Cymry, cyfrol 2 (Gwasg Gomer, 1989)
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Caerdydd, 1926)
  • Heledd Hayes, Cymru a'r Dadeni (Y Colegiwm Cymraeg, 1987)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Penodau VII-VIII
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932)
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholion o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)

[golygu] Gweler hefyd

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com