Eifion Williams
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Eifion Wyn Williams | |
Dyddiad geni | 15 Tachwedd 1975 (32 oed) | |
Lle geni | Bangor, Gwynedd, | |
Gwlad | Cymru | |
Clybiau Hŷn | ||
Blwyddyn | Clwb | Ymdd.* (Goliau) |
1995-97 1997-99 1999-2002 2002-2007 2007-2008 |
Tref Caernarfon Tref Y Barri Torquay United Hartlepool United Wrecsam |
75 (63) 60 (68) 107 (24) 208 (50) 1 (0) |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Peldroediwr ydi Eifion Wyn Williams (ganed 15 Tachwedd, 1975) sy'n chwarae yn safle canol cae/ymosodwr i dîm pêl-droed Wrecsam yn ail adran Cynghrair Lloegr. Mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel tim 'B'.
Fe gafodd Williams ei eni ym Mangor, er iddo dyfu i fyny yn Llangoed, Ynys Môn. Fe gychwynodd ei yrfa yn Wolverhampton Wanderers F.C. fel chwaraewr ieuenctid, ond cafodd ei ryddhau a ymunodd â chlwb Caernarfon yn y Cynghrair Cenedlaethol, a chychwyn gyrfa fel adeiladwr. Ond yng Nghaernarfon ddaru ei yrfa gychwyn mewn difrif oherwydd roedd yn sgoriwr goliau cyson iawn i'r clwb a chymryd sylw clybiau mwy at ei ddoniau. Y Barri oedd y clwb cyntaf i wneud symudiad amdano, ac ar ddiwedd tymor 1997-98, symudodd yno am ffi o £25,000. Ymysg ei goliau, oedd un yn erbyn Dynamo Kiev o'r Wcrain yng Nghynghrair y Pencampwyr. Fe sgoriodd bedair gol i'r Barri mewn buddugoliaeth yn erbyn Conwy o 9-0.
Yn mis Mawrth 1999, gadawodd Tref y Barri i ymuno â chlwb Torquay United am £70,000, yna aeth ymalen i chwarae dros Hartlepool United, gan helpu'r clwb i ennill dyrchafiad yn nhymor 2001/02. Cafodd ei ryddhau gan Hartlepool ar ddiwedd dymor 2006/07, cyn ymuno â Wrecsam.
Cyhoeddod ei ymddeoliad yn mis Mawrth 2008 yn 32 oed.