Dosraniad normal
Oddi ar Wicipedia
Mae'r dosraniad normal, neu dosraniad Gauss, fel y'i gelwir, yn ddosraniad tebygolrwydd sy'n bwysig mewn sawl maes. Mewn gwirionedd, teulu o ddosraniadau o'r un ffurf ydyw, pob un â gwahanol paramedrau lleoliad a graddfa: y cymedr a'r gwyriad safonol yn ôl eu trefn. Y dosraniad normal safonol yw'r dosraniad normal â chymedr yn hafal i ddim, a gwyriad safonol yn hafal i un. Fe debygir siap ei ffwythiant dwysedd tebygolrwydd i gloch.
Mae'r dosraniad normal yn fodel cyfleus o ffenomena rhifadwy yn y gwyddoniaethau naturiol ac yn y gwyddoniaethau cymdeithasol. Er enghraifft, darganfyddir fod y dosraniad normal yn amcangyfrifiad agos i ystod eang o ganlyniadau profion seicolegol, a ffenomena ffisegol megis cyfrifon ffotonau. Yn aml, ni ddeallir achosion y ffenomena dan sylw; ond fe ellir rhoi gyfiawnhâd damcaniaethol mewn sefyllfäoedd lle caiff llawer iawn o effeithiau bach eu hadio at ei gilydd i greu'r sgôr neu newidyn sy'n cael ei arsylwi. Cyfyd y dosraniad normal yn aml mewn sawl ardal o ystadegath hefyd: er enghraifft, mae dosraniad samplu y cymedr yn led-normal, hyd yn oed os nad yw dosraniad y boblogaeth y gymerir y sampl ohono yn normal. Yn ogystal, mae'r dosraniad normal yn uchafu'r entropi gwybodaeth yn y dosraniadau â'r un cymedr ac amrywiant, sy'n ei wneud yn ddewis priodol o ddosraniad ar fyfer data, lle rydym ni'n gwybod dim ond y cymedr a'r amrywiant. Y dosraniad normal yw'r teulu o ddosraniadau a defnyddir amlach mewn ystadegaeth, ac fe seilir sawl prawf ystadegol ar ddamcaniaeth o normaledd. Mewn tebygolrwydd haniaethol, cyfyd dosraniadau normal fel dosraniadau terfanol sawl teulu o ddosraniadau di-dor ac arwahanol.
[golygu] Ffwythiant dwysedd tebygolrwydd
Mae Ffwythiant dwysedd tebygolrwydd dosraniad normal â chymedr μ ac amrywiant σ2 (yn gyfystyr, gwyriad safonol σ) yn enghraifft o Fwythiant Gaussaidd
(gw. hefyd ffwythiant esbonyddol a pi.)
Os oes gan hap-newidyn X y dosraniad hwn, ysgrifenwn X ~ N(μ,σ2). Os mae μ = 0 a σ = 1, yna fe gelwir y dosraniad yn ddosraniad normal safonol, ac mae'r ffwythiant dwysedd tebygolrwydd yn symleiddio i:
Rhai o rinweddau nodweddol y dosraniad normal:
- Mae'r ffwythiant dwysedd tebygolrwydd yn gymesyr o gylch ei werth cymedrol.
- Mae'r cymedr yn hafal i'w modd a'i ganolrif.
- Mae 68.268949% o'r arwynebedd is y graff o fewn un gwyriad safonol i'r cymedr.
- Mae 95.449974% o'r arwynebedd o fewn dau wiriad safonol.
- Mae 99.730020% o'r arwynebedd o fewn tri gwyriad safonol.
- Mae 99.993666% o'r arwynebedd o fewn pedwar gwyriad safonol.
- Mae pwyntiau ymdreiglad y cromlin un gwyriad safonol yn union o'r cymedr.
[golygu] Ffwythiant dosraniad cronnus
Diffinir ffwythiant dosrnaiad cronnus fel y tebygolrwydd fod gan hap-newidyn X gwerth sy'n llai na neu'n hafal i x, ac fe'i mynegir yn nhermau'r ffwythiant dwysedd tebygolrwydd fel a ganlyn:
Ar gyfer ffwythiant dosraniad cronnus normal safonol, a dynodir gan Φ, gwerthyswn y fformwla cyffredinol lle mae μ = 0 a σ = 1,
Gellir mynegi'r ffwythiant uchod yn nhermau ffwythiant arbennig, y ffwythiant cyfeiliornad erf , fel a ganlyn