Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Derwydd - Wicipedia

Derwydd

Oddi ar Wicipedia

Erthyglau ynglŷn â
Mytholeg Geltaidd
Coventina

Amldduwiaeth Geltaidd
Duwiau a duwiesau Celtaidd

Crefydd hynafol y Celtiaid

Derwyddon · Bardi · Vates
Crefydd y Celtiaid ym Mhrydain
Crefydd Alo-Rufeinig
Crefydd yn y Brydain Rufeinig

Mytholeg y Brythoniaid

Mytholeg Gymreig
Mytholeg Lydewig
Mabinogi · Hanes Taliesin
Culhwch ac Olwen
Pedair Cainc y Mabinogi
Llên gwerin Cymru
Deunydd Prydain · Y Brenin Arthur

Mytholeg Oidelig

Mytholeg Wyddelig
Mythology Albanaidd
Tuatha Dé Danann
Táin Bó Cúailnge
Cylch Mytholegol
Cylch Wlster
Cylch y Ffeniaid
Immrama · Echtrae

Gweler hefyd

Celtiaid · Gâl
Galatia · Celtiberiaid
Cynhanes yr Alban
Cynhanes Cymru
Pictiaid

Mynegai i erthyglau cysylltiedig
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Roedd derwydd yn aelod o ddosbarth o offeiriaid a gwybodusion ymhith y Celtiaid yn y cyfnod cyn Cristionogaeth. Ceir y cyfeiriadau atynt yn bennaf ym Mhrydain a Gâl. Y grêd gyffredinol oedd fod y gair yn dod o'r gair "derwen", ond credir yn awr nad oes cysylltiad â'r goeden; daw o'r Frythoneg *do - are -uid.

Taflen Cynnwys

[golygu] Tystiolaeth

[golygu] Awduron Groeg a Rhufeinig

Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Druridae gan awduron Groegaidd megis Soton o Alexandria, a ddyfynir gan Diogenes Laertius yn yr ail ganrif CC.. Cyfeiria nifer o awduron Rhufeinig at druides, yn arbennig gan Iŵl Cesar yn ei lyfr Commentarii de Bello Gallico . Dywed fod llawer o ddarpar-dderwyddon o Gâl yn cael eu gyrru i Brydain i'w haddysgu. Dywed awduron eraill megis Diodorus Siculus a Strabo fod y dosbarth offeiriadol Celtaidd yn cynnwys Derwyddon, bardi (beirdd) a Vates (Ofyddion). Dywed Diodorus Siculus a rhai awduron eraill eu bod yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.

Llun o ddau dderwydd, ar sail cerflun yn Autun, Ffrainc.
Llun o ddau dderwydd, ar sail cerflun yn Autun, Ffrainc.

Yn ôl Plinius yr Hynaf (23-79 OC) yn ei lyfr Hanes Naturiol y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y dderwen a'r uchelwydd (mistletoe) yn nefodau'r derwyddon:

Y mae'r [derwyddon] yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau darw yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r offeiriad, wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â chryman aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.[1]

Ymddengys fod derwydd yn gorfod dysgu corff helaeth o ddysgeidiaeth ar ei gôf, gan nad oeddynt yn ei ysgrifennu. Gwaharddwyd dinasyddion Rhufeinig rhag ymwneud a defodau derwyddol gan yr ymerawdwr Augustus ac yn ddiweddarach eto gan Claudius yn 54 OC.

Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio'r ymosodiad ar Ynys Môn gan fyddin Rufeinig dan Suetonius Paulinus. Yn wynebu'r milwyr Rhufeinig dros Afon Menai roedd derwyddon a gwragedd (ni ddywedir bod y gwragedd yn dderwyddon) yn cyhoeddi melltithion arnynt. Dywed Tacitus i'r Rhufeiniaid dorri y llwyni coed lle cynhelid eu defodau. Mae awgrym fod yr ynys o bwysigrwydd arbennig i'r derwyddon; efallai y gellir cysylltu hyn a'r offrymau niferus a chyfoethog a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach.

[golygu] Ffynonellau Cymreig a Gwyddelig

Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan Nennius, sy'n dweud yn ei Historia Brittonum i Gwrtheyrn alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant Garmon ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair Cymraeg derwydd ei hun yn y gerdd ddarogan Armes Prydain (tua 930), ond mae'n sicr mae gair arall am broffwyd neu ddaroganwr ydyw yn hytrach na "derwydd" yn yr ystyr glasurol.[2]

Ceir llawer o gyfeiriadau at dderwyddon yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon, lle maent yn ymddangos fel cynghorwyr y brenhinoedd. Yng Nghylch Wlster mae Cathbad, prif dderwydd llys Conchobar, brenin Wlster, yn cael ei ddilyn gan gant o ddynion ieuanc sy'n dymuno dysgu ei grefft. Yn hanesion Iwerddon gall y derwyddon weld y dyfodol a bwrw hud.

[golygu] Derwyddon modern

Yn 1649, mynegodd yr hynafiaethydd John Aubrey y farn mai'r derwyddion oedd yn gyfrifol am adeiladu Côr y Cewri. Mae'r farn honno dal yn boblogaidd heddiw, ac mae derwyddon modern yn cynnal defodau yno ar y dydd hwyaf o'r flwyddyn. Dechreuodd diddordeb gynyddu yn y derwyddon yn y 18fed ganrif, gyda William Stukeley a cyhfrol Henry Rowlands, Mona Antiqua Restaurata yn ddylanwadol iawn. Efallai mai'r prif ddylanwad oedd Iolo Morganwg. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau yn cynnwys deunydd Iolo ar ôl ei farwolaeth, er enghraiift Barddas (dwy gyfrol: 1862, 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, er y credir bellach mai ffugiadau Iolo ei hun yw'r rhan fwyaf. Gelwir gradd uchaf aelodau Gorsedd y Beirdd yn "dderwyddon".

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Hanes Naturiol XVI.249, dyfynwyd gan Gwyn Thomas yn Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).
  2. Ifor Williams (gol.), Armes Prydain.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Aldhouse-Green, Miranda J., Exploring the World of the Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1997)
  • Chadwick, Nora K., The Druids (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1966)
  • Fitzpatrick, A. P., Who were the Druids? (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1997)
  • Hutton, Ronald, The Druids (Llundain: Hambledon Continuum, 2007)
  • Piggott, Stuart, The Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1975)
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com