Y Dywysoges Gwenllian
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am ferch Llywelyn ap Gruffudd yw hon. Gweler hefyd Gwenllian (gwahaniaethu).
Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Eleanor de Montfort, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian neu Gwenllian o Gymru (12 Mehefin, 1282 - 7 Mehefin, 1337). Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor, merch y barwn Simon de Montfort. Cafodd ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Aber Garth Celyn, Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi.
Ar ôl i Dywysogaeth Cymru syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd, bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Roedd Eryri a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor bu cyfnod dychrynllyd yn hanes y wlad gyda'r milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
Daliwyd Gwenllian. Yr oedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl posibl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i ducpwyd o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr, a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337.
Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.