Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Thomas Gwynn Jones - Wicipedia

Thomas Gwynn Jones

Oddi ar Wicipedia

Thomas Gwynn Jones
Thomas Gwynn Jones

Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref, 1871 - 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Roedd yn frodor o Fetws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw).

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei fywyd

Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru (Y Faner) yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr Rhyddfrydol Thomas Gee sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Aeth i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur.

Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Prydain yn y rhyfel.

[golygu] Llyfryddiaeth ddethol

[golygu] Llyfrau T. Gwynn Jones

  • Astudiaethau (1936). Ysgrifau.
  • (cyf.), Awen y Gwyddyl (1922). Barddoniaeth Wyddeleg mewn cyfieithiad.
  • Bardism and Romance (1914). Astudiaeth.
  • Beirniadaeth a Myfyrdod (1935). Ysgrifau.
  • (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927). Epigramau Groeg mewn cyfieithiad.
  • Brethyn Cartref (1913). Straeon.
  • Brithgofion (1944). Darn o hunangofiant.
  • Caniadau (1934). Cerddi.
  • Cofiant Thomas Gee (1913). Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.
  • Cymeriadau (1933). Ysgrifau.
  • Y Dwymyn (1944). Cerddi.
  • Dyddgwaith (1937). Ysgrifau.
  • Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
  • Emrys ap Iwan (1912). Cofiant Emrys ap Iwan.
  • (cyf.), Faust gan Goethe (1922). Cyfieithiad o waith mawr Goethe.
  • Gwedi Brad a Gofid (1898). Nofel.
  • (gol.), Gwaith Tudur Aled (1926). Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.
  • Gwlad y Gân a cherddi eraill (1902). Cerddi.
  • John Homer (1923). Nofel.
  • Lona (1923). Nofel.
  • Llenyddiaeth y Cymry (1915). Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.
  • (cyf.) Macbeth gan William Shakespeare (1942). Cyfieithiad mydryddol grymus o ddrama enwog Shakespeare.
  • Rhieingerddi'r Gogynfeirdd (1915). Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.
  • (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940). Cyfieithiad o Gweledigaethau'r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne.
  • Welsh Folklore and Folk-custom (1930). Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.

[golygu] Beirniadaeth ac Astudiaethau

  • Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, "Cyfres y Meistri" (Caerdydd, 1982)
  • David Jenkins, Cofiant Thomas Gwynn Jones (Dinbych, 1973)
  • Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth T. Gwynn Jones (1972)
  • D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
  • "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor (Caerdydd, cyfrol XXVIII, Haf 1949)
Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com