Mathemateg bur
Oddi ar Wicipedia
[golygu] Cefndir
Yn fras, mathemateg a hynan-symbylir, heb ystyried cymwysiadau, yw mathemateg bur. Fe'i adnabyddir fel cangen o fathemateg ers y 18fed ganrif, pryd sylweddolwyd ei fod yn wahanol i'r fathemateg gymwysiedig a oedd yn datblygu i gyrhaedd dibenion morwriaeth, seryddiaeth, ffiseg, peirianneg a.y.b.. I gychwyn, ni wahaniaethwyd rhyw lawer rhwng y gwahanol fathau o fathemateg, ond fe ddatblygodd mathemateg bur fel maes annibynnol yn ystod y 19fed canrif, yn nodweddiadol felly yn ngwaith Weierstrass ar ddadansoddi.
[golygu] Yr ugeinfed ganrif
Ar ddechrau'r 20fed canrif, fe fabwysiadodd mathemategwyr y dull gwirebol, dan ddylanwad David Hilbert ac eraill. Fe ddaeth hyn i edrych yn fwyfwy rhesymol, wrth i waith Bertrand Russell ac Alfred North Whitehead gosod llawer o fathemateg ar y sylfaen hwn.