Llandaf
Oddi ar Wicipedia
Un o faesdrefi dinas Caerdydd yn ne Cymru yw Llandaf. Y mae hefyd yn rhoi ei henw i un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a fu yn hanesyddol gyda'r rhai tlotaf yng Nghymru a Lloegr, ond sydd erbyn hyn yn cwmpasu'r ardal fwyaf poblog yn ne Cymru. Dominyddir Llandaf gan yr Eglwys Gadeiriol, a gerllaw y mae adfeilion plasdy'r esgob a ddinistriwyd gan Owain Glyndŵr.
Ymhlith yr enwogion a enwyd yno y mae'r awdur Roald Dahl a'r gantores Charlotte Church; cawsant hefyd eu haddysgu yn ysgolion bonedd Llandaf. Y mae pencadlys y BBC yng Nghymru yn Llandaf. Gwasanaethir yr ardal gan orsaf trenau Llandaf, sydd mewn gwirionedd yn ardal Ystum Taf.
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro â Llandaf yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.