Hadrian
Oddi ar Wicipedia
Publius Aelius Traianus Hadrianus, 24 Ionawr 76 - 10 Gorffennaf 138) oedd ymerawdwr Rhufain o 117 hyd ei farwolaeth,
Ganed Hadrian yn nhref Italica, gerllaw Sevilla yn ne Sbaen. yr oedd yn berthynas i'r ymerawdwr Trajan, a phenodwyd ef yn rhaglaw talaith Syria pan oedd Trajan yn ymladd yn erbyn y Daciaid. Wedi i Trajan farw cyhoeddodd gwraig Trajan, Pompeia Plotina fod yr ymerawdwr wedi mabwysiadu Hadrian fel mab cyn marw ac wedi ei ddewis fel olynydd. Nid oedd pawb yn credu hyn, ond daeth Hadrian yn ymerawdwr.
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r ymerodraeth a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn Dacia. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel Mur Hadrian ym Mhrydain. Ef hefyd a adeiladodd y Pantheon yn Rhufain.
Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Yr oedd yn hoff iawn o ddiwylliant Groeg, ac adeiladodd deml enfawr i Zeus yn Athen. Ceisiodd hefyd ail-adeiladu Jeriwsalem fel dinas Roegaidd, ond arweiniodd hyn at wrthryfel gan yr Iddewon dan arweiniad Simon bar Kochba.
Nid oedd gan Hadrian blant, a dewisodd Antoninus Pius fel ei olynydd, ar yr amod ei fod ef yn dewis perthynas pell i Hadrian, Marcus Aurelius Verus, fel ei olynydd yntau. Yn ddiweddarach daeth Marcus Aurelius Verus yn ymerawdwr dan yr enw Marcus Aurelius.Nodyn:Destacado