Gwlff Aden
Oddi ar Wicipedia
Gwlff sy'n gorwedd rhwng Horn Affrica a de Arabia yw Gwlff Aden (Arabeg: خليج عدن Khalyj 'Adan; Somaleg: Khaleejka Cadan). Mae'n cysylltu'r Môr Coch, i'r gogledd-orllewin trwy gulfor Bab al Mandab, â Môr Arabia a Chefnfor India i'r dwyrain. Mae'n un o'r llwybrau masnach forwrol prysuraf yn y byd. Fe'i enwir ar ôl dinas Aden.
Y gwledydd sydd ag arfordir ar lan Gwlff Aden yw Yemen yn Arabia, a Djibouti a Somaliland (Somalia) yng ngogledd-ddwyrain Affrica.