Arabia
Oddi ar Wicipedia
Gorynys yw Arabia (Arabeg: شبه الجزيرة العربية, neu جزيرة العرب) yn Ne-orllewin Asia. Fe'i lleolir rhwng Affrica ac Asia, yn y Dwyrain Canol. Mae anialwch yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohoni. Lleolir ffynhonellau enfawr o olew crai a nwy naturiol yma. Mae'r gwledydd canlynol yn ran o Arabia:
- Bahrain (ynys cyfagos)
- Coweit
- Oman
- Qatar
- Sawdi Arabia
- Emiradau Arabaidd Unedig
- Iemen