Groningen (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Groningen yw talaith fwyaf gogleddol yr Iseldiroedd. Mae poblogaeth y dalaith tua 575,000, gyda bron draean o'r rhain yn byw ym mhrifddinas y dalaith, dinas Groningen. Gyda dwysder poblogaeth o 246 y km², Groningen yw'r bedwaredd isaf ymhlith taleithiau'r Iseldiroedd; dim ond Drenthe, Fryslân a Zeeland sy'n is.
Yn y gogledd mae Groningen yn ffinio ar y Waddenzee, yn y dwyrain ar yr Almaen, yn y de ar dalaith Drenthe ac yn y gorllewin ar dalaith Fryslân. Mae'r dalaith yn cynnwys tair ynys fechan yn y Waddenzee, Rottumeroog, Rottumerplaat a Zuiderduintjes.
[golygu] Pobl enwog o Groningen
- Abel Tasman, fforiwr, enwyd Tasmania ar ei ôl.
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |