Zeeland
Oddi ar Wicipedia
Talaith yn ne-orllewin yr Iseldiroedd yw Zeeland. Ffurfir y dalaith o sawl penrhyn, oedd gynt yn ynysoedd, yn y delta a ffurfir gan ganghennau Afon Rhein ac afonydd Maas a Schelde. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 380,186. Prifddinas y dalaith yw Middelburg, tra mae Vlissingen a Terneuzen yn borthladdoedd pwysig.
Mae rhan o'r diriogaeth yn is na lefel y môr, a dioddefodd y dalaith lifogydd difrifol yn 1953. Erbyn hyn, mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yma. Enwyd Seland Newydd ar ôl Zeeland.
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |