Golfan y Mynydd
Oddi ar Wicipedia
Golfan y Mynydd | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Passer montanus (Linnaeus, 1758) |
Mae Golfan y Mynydd, Passer montanus, yn aelod o'r un teulu a'r Aderyn y To. Mae i'w gael yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac mewn rhannau o Asia. Mewn rhannau eraill o'r byd mae ambell boblogaeth o adar sydd wedi eu gollwng yn yn fwriadol, megis yn Awstralia a rhannau o Unol Daleithiau America.
Mae Golfan y Mynydd tua 12.5-14 cm o hyd, ychydig yn llai na'r Aderyn y To, sy'n edrych yn eithaf tebyg iddo. Gellir ei wahaniaethu trwy'r pen brown, y darn du ar y foch wen, y goler wen a dwy linell wen ar yr adenydd. Mae ei alwad hefyd ychydig yn wahanol. Yn wahanol i'r Aderyn y To, mae'r ddau ryw yn debyg i'w gilydd.
Fel rheol yn Ewrop mae'r Aderyn y To yn byw yn y trefi a'r pentrefi a Golfan y Mynydd yng nghefn gwlad, ond mewn rhannau o Asia mae yn byw mewn trefi hefyd. Ymddengys ei fod yn fwy parod i fyw mewn trefi mewn gwledydd lle nad yw Aderyn y To i'w gael. Er gwaethaf yr enw, nid yw'n aderyn mynydd.
Mewn tyllau y mae'n nythu, er enghraifft mewn coed neu graig, ac yn aml mae nifer o adar yn nythu gyda'i gilydd.
Yng Nghymru, mae niferoedd yr aderyn yma wedi lleihau yn sylweddol dros yr 50 mlynedd diwethaf, ac mae bellach yn aderyn eithaf prin yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Ar hyn o bryd mae yr RSPB a chyrff eraill yn ymdrechu i gynyddu'r nifer yn yr ardaloedd lle mae poblogaeth yn parhau, ac mae'n ymddangos fod hyn yn llwyddo.