Dyfnaint
Oddi ar Wicipedia
Sir yn ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'n ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.
Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.
Mae baner Dyfnaint yn fodern. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.
Mae enwau lleoedd (trefi a phentrefi) o darddiad Celtaidd yn brin iawn yn Nyfnaint, ond maen nhw'n dod yn gyffredin yn syth ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Ond cadwodd y gwladychwyr o Sacsoniaid nifer o enwau'r Celtiaid ar afonydd.
[golygu] Dinasoedd a threfi
|
|
[golygu] Dolen allanol
- (Saesneg) Cyngor Sir
- An Ger Dewnansek (yn Saesneg y Dyfnaineg)
Swyddi seremonïol Lloegr | |
Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Berkshire | Bryste | Swydd Buckingham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerwrangon | Caint | Cumbria | Swydd Derby | Dorset | Dyfnaint | Swydd Durham | De Efrog | Gogledd Efrog | Gorllewin Efrog | Essex | Glannau Merswy | Gorllewin y Canolbarth | Gwlad yr Haf | Hampshire | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Swydd Northampton | Northumberland | Swydd Nottingham | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Suffolk | Surrey | Dwyrain Sussex | Gorllewin Sussex | Tyne a Wear | Swydd Warwick | Swydd Wilton | Ynys Wyth | |