Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cynghrair Geltaidd - Wicipedia

Cynghrair Geltaidd

Oddi ar Wicipedia

Y Gynghrair Geltaidd
Logo'r Gynghrair Magners
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 2001
Nifer o Dîmau 10
Gwledydd Yr Alban
Cymru
Iwerddon
Pencampwyr presennol Gweilch
Gwefan Swyddogol www.magnersleague.com
Am y mudiad gwleidyddol, gweler Undeb Celtaidd

Y Gynghrair Geltaidd, a elwir yn Gynghrair Magners ar hyn o bryd am resymau nawdd, yw'r gystadleuaeth flynyddol ar gyfer tîmau rhanbarthol rygbi'r undeb yr Alban, Cymru ac Iwerddon. Caiff y gynghrair ei hystyried yn un o'r tri chynghrair mwyaf yn Ewrop ynghŷd â Guinness Premiership Lloegr a Top 14 Ffrainc.

Mae pob tymor o'r gynghrair yn dechrau ym mis Medi ac yn para nes mis Mai. Er bod tymor yn cynnwys calendr o 22 penwythnos (gyda phob tîm yn cael 2 benwythnos rhydd), bydd rhaglen y tymor yn newid yn aml oherwydd ymyrraeth gemau eraill. Ni chaiff gemau eu chwarae ar benwythnosau rhyngwladol mis Tachwedd neu yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd yr wyth tîm sy'n gorffen ar frig y gynghrair ar ddiwedd y tymor yn cael chwarae yn y Cwpan Heineken y tymor nesaf. Gall un tîm ychwanegol gael lle yn y gwpan Heineken drwy ennill gêm ail-gyfle yn erbyn y tîm sy'n gorffen yn drydydd ym mhencampwriaeth Deg Disglair yr Eidal.

Taflen Cynnwys

[golygu] Tîmau Presennol

[golygu] Cyn-dîmau

  • Abertawe (2001-2003)
  • Caerdydd (2001-2003)
  • Caerffili (2001-2003)
  • Casnewydd (2001-2003)
  • Castell Nedd (2001-2003)
  • Glyn Ebwy (2001-2003)
  • Llanelli (2001-2003)
  • Penybont (2001-2003)
  • Pontypridd (2001-2003)
  • Rhyfelwyr Celtaidd (2003-2004)
  • Gororau (2002-2007)

[golygu] Hanes

Ffurfiwyd y Gynghrair Geltaidd yn 2001, ar ôl cytundeb rhwng Undeb Rygbi'r Alban, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Iwerddon i greu cynghrair yn cynnwys naw clwb Cymreig, dau glwb Albanaidd a phedwar talaith Wyddelig. Roedd y clybiau Albanaidd a Chymreig wedi uno'n barod i greu un gynghrair rhwng y ddwy wlad yn nhymorau rygbi 1999 a 2000, ac mae'r cytundeb newydd yn ychwanegu pedwar talaith Wyddelig i'r gynghrair.

[golygu] 2001-02

Roedd tymor agoriadol y gynghrair yn cynnwys 15 tîm: 2 glwb o'r Alban (Caeredin a Glasgow), 9 clwb o Gymru (Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell Nedd, Glyn Ebwy, Llanelli, Penybont a Phontypridd) a 4 talaith Wyddelig (Connacht, Leinster, Munster ac Ulster). Roedd y tîmau'n chwarae mewn dau grŵp o 7 ac 8. Roedd 4 tîm ar frig y ddau grŵp ar ôl i bob tîm chwarae pob tîm yn ei grŵp unwaith yn chwarae ei gilydd mewn gemau "ergyd derfynol".

Yn y tymor cyntaf, cyrrhaeddodd 3 o'r taleithiau Gwyddelig y rownd gyn-derfynol, a chwaraewyd y rownd derfynol rhwng Leinster a Munster ar gae Lansdowne Road. Enillodd Leinster 24-20 gan ddod yn enillwyr tymor cyntaf y gystadleuaeth.

[golygu] 2002-03

Ar gyfer ail dymor y gystadleuaeth, crëwyd tîm Albanaidd newydd (Y Gororau) i godi presenoldeb yr Alban yn y gynghrair ac i sicrhau fod yr un nifer o dîmau yn y ddau grŵp. Ar wahân i hyn, roedd strwythur y gystadleuaeth yn union yr un fath ag yr oedd yn nhymor 2001-02.

Er bod y taleithiau Gwyddelig yn parhau i chwarae'n gryf yn y gynghrair, ni lwyddodd pencampwyr cyntaf y gystadleuaeth, Leinster, gyrraedd rownd yr wyth olaf. Felly, llwyddodd Munster i ennill eu gemau'n gyfforddus, gan ennill yr ornest derfynol yn erbyn Castell Nedd o 37 pwynt i 17 yng Nghaerdydd.

[golygu] 2003-04

Cyn dechrau'r tymor newydd, newidiwyd strwythur rygbi yng Nghymru i ranbarthau'r clybiau, ac felly newidwyd strwythur y gynghrair. Gyda'r 9 clwb o Gymru'n troi yn 5 rhanbarth (Gleision Caerdydd, Scarlets Llanelli, Gweilch Tawe-Nedd, Dreigiau Gwent a'r Rhyfelwyr Celtaidd), roedd yn bosib creu cynghrair fwy traddodiadol lle byddai pob tîm yn chwarae ei gilydd dwywaith bob tymor (gartref a bant o gartref) a'r tîm buddugol fyddai'r un ar frig y gynghrair ar ddiwedd y tymor. Roedd y system newydd yn caniatau rhaglen o 22 rownd gyda gemau'n cael eu chwarae ar bob penwythnos.

Oherwydd y fformat newydd, a'r ffaith fod Cwpan y Byd Rygbi 2003 yn achosi colled chwaraewyr rhyngwladol yn ystod nifer o benwythnosau cystadleuol y gynghrair, y tîmau gyda chryfder mewn dyfnder amlygodd eu hunain (ar gyfer un gêm rhwng y Scarlets a Munster, roedd 25 o chwaraewyr nad oedd ar gael o achos rygbi rhyngwladol). Er hynny, cafwyd diweddglo cyffrous i'r tymor, wrth i'r Scarlets (a oedd ar frig y tabl) lwyddo i guro Ulster (a oedd yn ail yn y tabl) ar benwythnos olaf y tymor i ennill y gynghrair.

Tymor 2003-04 oedd tymor cyntaf y Cwpan Celtaidd - cystadleuaeth cwpan traddodiadol rhwng y tîmau Celtaidd. Roedd fformat y cwpan yn newid y tymor canlynol fel bod dim ond 8 tîm gorau'r gynghrair yn cymryd rhan ynddo.

[golygu] 2004-05

Yn 2004, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fod yn amhosib iddynt gynnal 5 tîm rhanbarthol, ac felly diddymwyd y Rhyfelwyr Celtaidd, er iddynt ymddangos fel un o'r rhanbarthau cryfaf a oedd yn cyfrannu nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn eu tymor cyntaf. Felly, disgynnodd y nifer o dîmau yn y gynghrair unwaith yn rhagor i 11. Byddai hyn hefyd yn caniatau i bob tîm cael dau benwythnos rhydd yn ystod y calendr o 22 penwythnos.

Heb gwpan y byd i dynnu sylw'r tîmau, hwn fyddai'r tymor pwysicaf yn hanes byr y gynghrair. Roedd dosraniad chwaraewyr y Rhyfelwyr Celtaidd i'r rhanbarthau eraill yn gyffredinol yn codi ansawdd rygbi'r tîmau Cymraeg. Cyhoeddwyd y byddai llefydd ar gyfer y cwpan Heineken yn cael eu dewis trwy berfformiad yn y Gynghrair Geltaidd. Ni fyddai Connacht yn cael ei labeli fel talaith ddatblygol rhagor gan undeb rygbi Iwerddon. Cyhoeddwyd hefyd y byddai hyfforddwyr Iwerddon yn cael atal chwaraewyr Gwyddelig rhag chwarae yn y Gynghrair Geltaidd ar gyfer sesiynau ymarfer y garfan ryngwladol. Oherwydd hyn, roedd taleithiau fel Leinster a Munster yn aml yn chwarae eu hail dimau ar benwythnosau cyn gemau rhyngwladol ac yn ystod tair wythnos gyntaf y tymor. Er hynny, gorffennodd Munster y tymor yn ail, a Leinster yn drydydd. Y Gweilch oedd pencampwyr 2004-05, a hwn oedd yr ail dymor yn olynol i un o ranbarthau Cymru ennill y gynghrair.

[golygu] 2005-06

Bu trafodaethau rhwng undebau rygbi Cymru a Lloegr i drefnu Cwpan Eingl-Gymreig yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn. Oherwydd bod y cwpan newydd hwn yn ymyrryd â rhaglen dymor y Gynghrair Geltaidd (ac yn cymryd lle'r Cwpan Celtaidd), diarddelwyd rhanbarthau Cymru o'r gynghrair gan undebau'r Alban ac Iwerddon ym Mehefin 2005. Dim ond ychydig o fisoedd cyn y tymor newydd, roedd yn edrych fel petai'r gynghrair yn mynd i gael ei aildrefnu i gynnwys 4 tîm Eidaleg i gymryd lle'r rhanbarthau Cymreig. Er hynny, llwyddodd undebau'r gwledydd Celtaidd gyrraedd cytundeb i gadw'r gynghrair yn ei strwythur presennol. Byddai rhanbarthau Cymru yn gorfod chwarae eu gemau lleol yng nghanol wythnos i gadw rhai penwythnosau'n rhydd ar gyfer y Cwpan Eingl-Gymreig.

Er y problemau ynglŷn â threfnu'r gynghrair, roedd tymor 2005-06 yn llwyddiannus o ran maint y torfeydd gan eu bod wedi codi tua 50,000 o gymharu â'r tymor cynt. Yn debyg i dymor 2003-04, penderfynwyd pencampwyr y gynghrair ar benwythnos olaf y tymor. Ar ôl i Leinster guro Caeredin, byddai'n rhaid i Ulster guro'r Gweilch i fod yn bencampwyr. Wrth fynd i mewn i amser anafiadau, roedd y Gweilch ar y blaen. Ond gyda chic ola'r gêm, sgoriwyd gôl adlam gan faswr Ulster David Humphreys i ennill y gêm a'r gynghrair.

[golygu] 2006-07

Ym mis Mai 2006, cyhoeddwyd y byddai Magners Irish Cider yn noddi'r gynghrair am bum tymor. Er bod Magners yn cael ei frandio'n Bulmers Irish Cider yng Ngweriniaeth Iwerddon, byddai'r gynghrair yn swyddogol yn cael ei alw'n Gynghrair Magners ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd.

Ym mis Mawrth 2007, cyhoeddodd Undeb Rygbi yr Alban nad oedd modd cynnal tri rhanbarth, ac felly byddai'n rhaid terfynu rhanbarth y Gororau ar ddiwedd tymor 2006-07. Roedd yn ymddangos fod problemau ariannol yr undeb yn ei wneud yn amhosib iddynt ariannu'r rhanbarth a chynnal rygbi o ansawdd digon da i gystadlu yn Ewrop. Beirniadwyd y penderfyniad yma yn hallt gan nifer o bobl, yn cynnwys rhanbarthau rygbi Caeredin a Glasgow, a bu cryn dipyn o wrthwynebiad gan gefnogwyr y Gororau. Er ymgeision gan bobl leol i godi arian i gynnal y tîm, terfynnwyd y tîm ar ddiwedd y tymor.

Am y rhan fwyaf o'r tymor, tra-arglwyddiaethwyd y gynghrair gan y tîmau Gwyddelig Leinster ac Ulster. Er hynny, gorffennodd y tymor â thair o ranbarthau Cymru yn y pedwar uchaf ar ôl iddynt ennill nifer o gemau yn olynol yn erbyn eu gwrthwynebwyr agos. Collodd Leinster i'r Gleision ar benwythnos olaf y tymor gan alluogi'r Gweilch i ennill y gynghrair am yr ail dro yn eu hanes drwy guro'r Gororau yn Netherdale. Felly, bu'n dymor da i'r rhanbarthau o Gymru. Dangoswyd fod gan y Gweilch garfan ddigon dawnus a mawr i fedru cystadlu yn rhesymol mewn nifer o gystadlaethau (yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Eingl-Gymreig yn ogystal ag ennill y Gynghrair Geltaidd), tra bod y Scarlets a'r Dreigiau wedi bod yn weddol lwyddiannus ym mhencampwriaethau Ewrop, ac felly'n methu canolbwyntio ar y Gynghrair Geltaidd.

[golygu] Pencampwyr

Cynghrair Geltaidd
Tymor Tîmau Enillydd Ail
2001/02 15 Leinster Munster
2002/03 16 Munster Castell Nedd
2003/04 12 Scarlets Ulster
2004/05 11 Gweilch Munster
2005/06 11 Ulster Leinster
2006/07 11 Gweilch Gleision
2007/08 10 -- --
Cwpan Celtaidd
Tymor Tîmau Enillydd Ail
2003/04 12 Ulster Caeredin
2004/05 8 Munster Scarlets

[golygu] Ffynhonellau

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com