Cymraeg Cynnar
Oddi ar Wicipedia
Cymraeg |
---|
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar y Gymraeg |
Iaith |
Gramadeg | Morffoleg | Orgraff | Seinyddiaeth | Yr wyddor | Cymraeg llafar | Cymraeg ysgrifenedig | Benthyg geiriau |
Hanes |
Hanes | Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg | Cymraeg Cynnar | Hen Gymraeg | Cymraeg Canol | Cymraeg Modern Cynnar | Cymraeg Modern Diweddar | Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg | Addysg Gymraeg |
Diwylliant a chyfryngau |
Diwylliant | Cerddoriaeth | Eisteddfod | Ffilm | Llenyddiaeth | Theatr Cyfryngau | Papurau newydd | Radio | Rhyngrwyd | Teledu |
Tafodieithoedd |
Tafodieithoedd | Cymraeg y gogledd | Cymraeg y de | Y Bowyseg | Y Ddyfedeg | Y Wenhwyseg | Y Wyndodeg | Cymraeg y Wladfa | Wenglish |
Mudiadau a sefydliadau |
Bwrdd yr Iaith Gymraeg | Cymdeithas yr Iaith | Y Cymmrodorion | Cymuned | Merched y Wawr | Yr Urdd |
[1]Mae Cymraeg Cynnar yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o hanner olaf y 6ed ganrif, pan ddechreuodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg hyd ddiwedd yr 8fed ganrif.
Dim ond ambell i arysgrif ar feini sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn. Yr enghraifft gynharaf yw beddfaen sydd yn awr yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn. Ar y maen yma, sy'n dyddio o tua 700, ceir arysgrif yn coffhau nifer o bobl, ond mae'r ystyr yn bur ansicr, yn enwedig gan fod y llythrennau eu hunain yn anodd eu darllen.
Fe gynnwys gwaith Beda, Hanes Eglwysig Cenedl yr Eingl, a ysgrifennwyd ar ddechrau'r wythfed ganrif, ac ambell i enw lle Cymraeg. Mae'r enghraifft gynharaf o Gymraeg mewn llawysgrif sydd wedi goroesi i'w chael yn Llyfr Sant Chad, a gedwir yn eglwys gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield). Gweithred gyfreithiol yw'r darn, a elwir yn gofnod surexit ar ôl y gair cyntaf o'r testun, ac a gopïwyd ar ddiwedd yr 8fed ganrif o weithred Gymraeg o'r 6ed ganrif. O'r ffynonellau hyn y tardd yr ychydig wybodaeth sydd gennym am Gymraeg Cynnar.
Mae'r cofnod surexit fel a ganlyn:
tutbulc filius liuit hagener tutri dierchi tir telih haioid ilau elcu filius gelhig haluidt iuguret amgucant pel amtanndi ho diued diprotant gener tutri o guir imguodant ir degion guragon tagc rodesit elcu guetig equs tres uache, tres uache nouidligi namin ir ni be cas igridu dimedichat guetig hit did braut grefiat guetig nis minn tutbulc hai cenetl in ois oisau
Mewn Cymraeg Cynnar y byddai'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf, yr Hengerdd, wedi ei gyfansoddi, er enghraifft Y Gododdin. Credir i'r farddoniaeth yma gael ei throsglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei hysgrifennu.