Coca-Cola
Oddi ar Wicipedia
Diod cola yw coca-cola. Hwn ydi'r diod cola mwyaf poblogaidd, a cystadleuwr cryf iddo yw Pepsi.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes y Cwmni
Crewyd y cwmni ym 1886 gan John S. Pemberton. Bwriad y cwmni oedd cynnig rhywbeth gwahanol i "alcohol" yn ystod y cyfnod pan y gwaharddwyd alcohol (Prohibition) yn yr Unol Daliaethau.
Yn ystod yr "Ail Ryfel Byd", roedd yn anodd iawn allforio'r ddiod i'r Almaen. Dyma un o'r rhesymau dros greu'r ddiod newydd 'Fanta'.
Yn y 1980au, newidwyd fformiwla'r ddiod a rhoddwyd enw newydd arni, sef "New Coke". Roedd nifer o bobl yn casau'r cola newydd, ac o ganlyniad crewyd "Coke Clasurol" gan y cwmni.
Mae'r cwmni yma yn creu amrywiaeth o ddiodydd eraill.
[golygu] Nadolig - Y Siôn Corn Coch
Crewyd y Siôn Corn Coch gan y cwmni yn ystod y 1930au. Credir i hyn gael dylanwad mawr ar ddiwylliant America, gan arwain at greu'r ddelwedd o Siôn Corn sy'n adnabyddus i ni heddiw. Yn ystod y 1980au a'r 1990au, ymddangosodd y Siôn Corn Coch ar hysbysebion teledu Nadolig Coca Cola.
[golygu] Enwau Arall
[golygu] Safleoedd Eraill
- (Saesneg) http://www.cocacola.co.uk/ (Prydeinig)
- (Almaeneg) http://www.cocacola.de (Ewropeaidd)
- (Saesneg) http://www.cocacola.com (Americanaidd)