Vladimir Lenin
Oddi ar Wicipedia
Lenin Chwyldroadwr Rwsiaidd |
|
Genedigaeth: |
22 Ebrill 1870 Simbirsk, Rwsia |
Marwolaeth: |
21 Ionawr 1924 Gorki ger Moskva, Rwsia |
Chwyldroadwr Rwsiaidd, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин), enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Улья́нов) (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei arwain at fuddugoliaeth yn chwyldroau Rwsia. Ystyrir yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialyddiaeth wyddonol ynghŷd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol.
[golygu] Bywyd cynnar
Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei olygon gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwplhau gradd yn y gyfraith.