Vates (band)
Oddi ar Wicipedia
Vates | |
---|---|
Gwybodaeth Cefndirol | |
Tarddiad | Blaenau Ffestiniog / Llan Ffestiniog |
Cerddoriaeth | Dub / Ska / Pync |
Blynyddoedd | 2000- |
Label(i) Recordio | Recordiau Bos Records |
Cysylltiedig | Anweledig / Mim Twm Llai |
Dylanwadau | Madarch Hud |
Aelodau | |
Dewi Prysor - Prif Lais, Gitar Iwan 'Oz' Jones - Gitar Flaen Phil Lee Jones - Drymiau "Han" - Gitar Fâs Gorwel Roberts - Gitâr, mandolin, charango Gwyn Jones - Offer Taro Yr Arglwydd Snedli - Sax, Corn Alun E - Gitâr |
- Erthygl am fand o Gymru yw hon. Am yr offeiriad Celtaidd, gweler Vates.
Mae Vates yn fand o ardal Ffestiniog yn Ngwynedd, yn chwarae mewn nifer o arddulliau, yn cynnwys Ska a Dub. Dewi Prysor yw prif leisydd y band, ac maent yn canu am nifer o faterion cyfoes, ac yn ogystal, materion hollol anghyfoes. Fe ffurfiwyd y band yn gynnar yn y mileniwm newydd, ac mae Iwan 'Oz' Jones yn brif gitarydd y band, gynt o Anweledig. Rhyddhawyd eu albwm cyntaf "Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o du Hwnt i'r Cyrtans" ar label Recordiau Bos ym Mis Mehefin 2007. Maent yn perfformio mewn nifer o wyliau lleol, megis Gwyl Car Gwyllt, yn gymharol aml.
[golygu] Discograffi
"Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus" Recordiau Bos, 2007