Anweledig
Oddi ar Wicipedia
Anweledig | |
---|---|
"lowts o Flaenau Ffestiniog" - Rhys Mwyn | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Tarddiad | Blaenau Ffestiniog |
Cerddoriaeth | Ska / Roc / Reggae |
Blynyddoedd | 1992- |
Label(i) Recordio | Crai |
Cysylltiedig | Vates, Mim Twm Llai |
Aelodau | |
Ceri Cunnington - Prif Lais Gai Toms - Gitar, Llais Rhys Roberts - Gitar Fâs Iwan 'Oz' Jones - Gitar Flaen Alwyn Evans - Drymiau "Sunshine" Dan Collister - Offerynnau Taro Jo Buckley - Allweddellau Y Tri Tôn: Owain Arwel Davies - Trombôn Bari Gwiliam - Trwmped Edwin Humphreys - Sacsoffon |
Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru yw Anweledig, yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, Reggae, Ska a Roc. Aelodau'r band yw Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitar,cyfansoddi, llais), Iwan 'Oz' Jones (gitar flaen), Rhys Roberts (gitar fas), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'.
Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sin Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, Sombreros yn y Glaw ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe s4c, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'.
Yn 1999, rhyddhawyd EP Cae yn Nefyn, eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn Maes-B yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef Scratchy (Sengl, 2000), Gweld y Llun (Albwm, 2001) a Low Alpine (Sengl, 2001). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymeryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP Byw. Ar ôl cyfnod tawel arall, ailffurfiodd y band am gig fawreddog yn Nhân y Ddraig yn Awst 2006, â'r Proclaimers yn eu cefnogi.