Tiberius
Oddi ar Wicipedia
Tiberius Caesar Augustus, ganed Tiberius Claudius Nero (16 Tachwedd, 42 CC – 16 Mawrth OC 37), oedd ail Ymerawdwr Rhufain. Teyrnasodd o farwolaeth Augustus yn 14 CC hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn fab i Tiberius Claudius Nero a Livia Drusilla, ac yn frawd i Drusus. Ail-briododd ei fam ag Augustus ar ôl cael ysgariad oddi wrth dad Tiberius, a thrwy fod yn fab maeth i Augustus, etifeddodd Tiberius yr ymerodraeth.
Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffîn yn Germania a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn 27 OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys Capri, ar yr arfordir gerllaw Napoli. Daeth pennaeth Gard y Praetoriwm, Lucius Aelius Seianus, yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hyn gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn 31. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.
Bu farw yn Misenum yn 77 oed, a dilynwyd ef gan Caligula.
O'i flaen : Augustus |
Ymerodron Rhufain Tiberius |
Olynydd : Caligula |