Technoleg
Oddi ar Wicipedia
Cysyniad eang sy'n ymwneud â defnydd a gwybodaeth rhywogaeth ynglŷn ag offer a chrefftau, a sut mae'n effeithio ar allu rhywogaeth i reoli ac addasu i'w hamgylchedd, yw technoleg. Yng nghymdeithas ddynol, mae'n ganlyniad o wyddoniaeth a pheirianneg. Daw'r term o'r Roeg "techne", "τέχνη" ("crefft") a'r olddodiad Cymraeg "-eg" ("astudiaeth"). Gall dechnoleg cyfeirio at ddefnyddiau materol sydd o ddefnydd i ddynoliaeth, megis peiriannau, caledwedd neu daclau, ond gall y cysyniad cynnwys themâu ehangach hefyd, yn cynnwys systemau, cyfundrefnau, a thechnegau.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.