Rhufain hynafol
Oddi ar Wicipedia
Datblygodd Rhufain hynafol o fod yn bentref amaethyddol ger glan Afon Tiber yng nghanolbarth yr Eidal i fod yn ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r Alban i Ogledd Affrica ac o Sbaen i Mesopotamia. O'r 5ed ganrif ymlaen, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio, ac ymrannodd Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn nifer o deyrnasoedd annibynnol. Parhaodd Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain, a reolid o Gaergystennin am ganrifoedd lawer ar ôl hyn, dan yr enw Yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Gellir rhannu hanes Rhufain yn nifer o gyfnodau.
[golygu] Teyrnas Rhufain
- Prif erthygl Teyrnas Rhufain
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar 21 Ebrill, 753 CC gan Romulus a Remus, disgynyddion Aeneas o Gaerdroia. Roedd brenin Alba Longa wedi gorchymyn eu bod i'w lladd, ond achubwyd hwy gan fleiddiast.
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau buchain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, Lucius Tarquinius Superbus, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua 509 CC.
[golygu] Gweriniaeth Rhufain
- Prif erthygl: Gweriniaeth Rhufain
Wedi diorseddu Tarquinius Superbus, sefydlwyd system weriniaethol, gyda dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3edd ganrif CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus. wedi gorchfygu Macedonia yn yr 2il ganrif CC, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y Ganrif 1af CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd ef gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
[golygu] Yr Ymerodraeth Rufeinig
- Prif erthygl: Yr Ymerodraeth Rufeinig
Rhufain hynafol | |
---|---|
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig |